Bydd Taith Pyllau Glo Cymru: Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnal achlysur cyffrous ar y cyd â The Drama Hut yn ystod Hanner Tymor yr Hydref. Beth am ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon drwy ddysgu am fywyd Mary Seacole? Yn ystod cyfnod lle bu pobl dduon yn wynebu anghyfiawnder, roedd Mary Seacole ymhlith un o fenywod busnes, nyrsys ac anturiaethwyr mwyaf adnabyddus y Deyrnas Unedig.
Pa ffordd well i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon na thrwy edrych ar fywyd Mary Seacole. Byddwn ni'n teithio yn ôl i'r 1850au gyda Mary Seacole, i gofio ac archwilio ei bywyd a'i gwaith. Gwrandewch ar ei stori a chael blas ar fywyd fel nyrs yn ystod Rhyfel y Crimea.
Yn ystod y gweithdy hwn byddwch chi'n:
- Dysgu am yr oes Fictoria a bywyd Mary
- Yn rhan o dasg fyrfyfyr, byddwch chi'n teithio i Grimea a Gwesty Mary sy'n cynnig lloches i'r bobl sydd wedi'u hanafu.
- Yn rhan o dasg chwarae rôl byddwch chi'n fyfyriwr neu nyrs sy'n gweithio yn ystod Rhyfel y Crimea.
- Byddwch chi'n perfformio cerdd am fywyd Mary gan ddefnyddio cân, drama, sain a symudiad.
- Byddwch chi'n llunio llinell amser i bennu cyfnod penodol ar gyfer Mary Seacole
Mae'r gweithdai'n addas ar gyfer plant 5-11 oed a byddan nhw'n cael eu cynnal ar-lein gan ddefnyddio rhaglen Zoom. Rhaid archebu tocyn ar gyfer pob plentyn sy'n cymryd rhan, os ydych chi'n byw yn yr un tŷ bydd modd i chi ddefnyddio un ddyfais ar gyfer y sesiwn. Mae lle ar gyfer uchafswm o 30 o blant ym mhob sesiwn.
Mae asesiadau risg ar gael ar gais.
Mae'r achlysur yma'n cael ei gynnig diolch i gyllid gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a Chyfadran y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.
Dysgwch ragor am The Drama Hut yma:
https://thedramahut.com/
Mary Seacole 10am - https://museums.wales/festival-event/mary-seacole-an-extraordinary-life/?event=23-10-2021-10-00
Mary Seacole 11:30am – https://museums.wales/festival-event/mary-seacole-an-extraordinary-life-2/?event=23-10-2021-11-30
Mary Seacole 1pm – https://museums.wales/festival-event/mary-seacole-an-extraordinary-life-3/?event=23-10-2021-13-00
Mary Seacole 2:30pm – https://museums.wales/festival-event/mary-seacole-an-extraordinary-life-4/?event=23-10-2021-14-30
Sesiwn Ymwybyddiaeth Ofalgar i Oedolion - Drymio Affricanaidd
Bydd Taith Pyllau Glo Cymru: Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, mewn partneriaeth ag Abass o gwmni One-Drum, yn cynnal achlysur cyffrous ar eich cyfer chi ar...... Beth am ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon trwy ddysgu am draddodiadau cerddoriaeth a drymio Ghana? Bydd Abass yn rhannu'r llawenydd a'r hapusrwydd sy'n gysylltiedig â rhythm Affrica gan ddefnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar, drymio ac offerynnau taro'r corff.
Mae'r Sesiwn Ymwybyddiaeth Ofalgar - Drymio Affricanaidd hon yn ffordd wych o ddathlu traddodiadau cerddoriaeth a drymio Ghana.
Ganed Abass Dodoo, Prif Ddrymiwr, yn Nsawam (tref yn ne Ghana), yn fab i deulu o ddrymwyr enwog. Yn 6 oed, cafodd ei ysbrydoli gan ei fam-gu "Abiba Okailey Ablah", sy'n fam i'r prif ddrymiwr enwog o Ghana, "Mustapha Tettey Addy". Roedd hi wedi dysgu iddo sut i ddrymio drwy ganu rhythmau traddodiadol.
Mae'n gweithio'n llawn amser fel cerddor, gan ddarparu cerddoriaeth Affricanaidd, rhythmau Jazz a gwaith byrfyfyr.
Rydyn ni'n eich annog chi i ddod â rhywbeth a all wneud sain a byddwch yn barod i ddefnyddio'ch cyrff fel offerynnau trwy glapio a stompio.
Ein nod yw darparu gweithgaredd hwyl llawn gwybodaeth ynglŷn â drymio a diwylliant Affrica gan ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon.
Bydd y gweithdy'n cael ei gynnal ar Zoom, rhaid i bawb cadw lle. Os ydych chi'n byw yn yr un tŷ, bydd modd i chi ddefnyddio un ddyfais ar gyfer y sesiwn.
Mae'r achlysur yma'n cael ei gynnig diolch i gyllid gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a Chyfadran y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.
Dysgwch ragor am One-Drum yma: https://www.one-drum.org/
Gwyliwch berfformiad gan Abass yma: https://www.youtube.com/watch?v=1jjBsYdf2CY
Wedi ei bostio ar 22/10/2021