Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi bod Siôn Corn ei hun yn dod i ganol tref leol i ledaenu hwyl yr ŵyl.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi trefniadau Profiad y Nadolig yng Nghanol y Trefi. Bydd cyfres o achlysuron yn cael ei chynnal ledled wyth prif dref y Fwrdeistref Sirol rhwng 26 Tachwedd a 18 Rhagfyr.
Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bawb ac mae COVID-19 wedi effeithio ar bob agwedd ar fywyd bob dydd, gyda'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau'r ŵyl wedi'u canslo y llynedd - a dyna pam mae'r Cyngor yn falch iawn o ddod â'r digwyddiadau hynod lwyddiannus hyn i ganol ein trefi- Mae Siôn Corn yn Dod i'r Dref yn 2021!
Mae canol trefi Rhondda Cynon Taf yn barod am y Nadolig, gydag anrhegion unigryw yn eu siopau boutique niferus a'r siopau enwau mawr hefyd - mae parcio AM DDIM ar ôl 10am o 1 tan 31 Rhagfyr - a gallwch chi hyd yn oed gwrdd â Siôn Corn wrth nôl eich anrhegion! Ar ben hyn oll, trwy siopa'n lleol, byddwch chi'n cefnogi'ch cymuned leol ac yn rhoi anrheg i'r blaned trwy leihau eich ôl troed carbon!
Mae Siôn Corn bellach wedi'i frechu'n llawn ac yn ddiweddar mae e wedi cael ei frechlyn ychwanegol diolch i'r rhaglen frechu genedlaethol - a dyma atgoffa preswylwyr i gael eu brechu pan gân nhw eu gwahodd, dyna orchymyn gan Siôn Corn!
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Yn dilyn y 18 mis diwethaf, mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Siôn Corn yn dod yn ôl i ganol ein trefi ar gyfer 2021. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno bod croeso cynnes i hwyl Nadoligaidd sy mawr ei angen, ar ôl y cyfnod anodd iawn i bawb.
“Byddwn i'n annog pawb i gefnogi ein busnesau lleol eleni a bachu ar anrhegion gwych sydd gan ein siopau unigryw. Gadewch i ni wneud Nadolig 2021 yn un arbennig, gan fanteisio ar bopeth sydd gan ein Bwrdeistref Sirol hyfryd i'w gynnig - mae RhCT yn barod am Nadolig 2021. ”
Yn rhan o Brofiad y Nadolig yng Nghanol Trefi bydd ogofâu dros dro mewn lleoliadau allweddol ledled wyth prif dref y Fwrdeistref Sirol, gan agor ddydd Gwener 26 Tachwedd ac yn cau ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr.
Profiad Nadoligaidd Canol Trefi RhCT
- Llyfrgell Aberdâr – Dydd Gwener 26 Tachwedd (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 27 Tachwedd (10am tan 4pm)
- Neuadd y Dref, Llantrisant – Dydd Sadwrn 27 Tachwedd (10am tan 4pm)
- Canolfan Pennar, Aberpennar – Dydd Gwener 3 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 4 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Llyfrgell Tonypandy – Dydd Gwener 3 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 4 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Clwb Bechgyn a Merched Treorci – Dydd Gwener 10 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 11 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Plaza Porth - Dydd Gwener 10 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 11 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Llys Cadwyn, Pontypridd - Dydd Gwener, 17 Rhagfyr (3:00 pm i 6:30 pm)
- Little Ferns, Glynrhedynog – Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr (10am tan 4pm)
Bydd y corachod yn brysur yn taenellu hwyl yr ŵyl ym mhob safle i sicrhau ei fod yn barod i'r dyn ei hun - Siôn Corn yn cyfarch ei ymwelwyr - does dim angen trefnu apwyntiad, dim ond galw heibio tra'ch bod chi allan ac yn nôl eich anrhegion yn y dref.
Bydd ffi mynediad o £2 a bydd plant yn derbyn anrheg sy'n addas i'w hoedran oddi wrth Siôn Corn. Bydd pob lleoliad yn cadw at ganllawiau diweddaraf COVID-19 a RHAID i oedolion a phlant 11 oed a hŷn wisgo masgiau bob amser.
I gael mwy o fanylion a gwybodaeth am ddigwyddiadau yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/achlysuron neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.
Wedi ei bostio ar 22/10/2021