Mae'n bosibl y bydd modd i'r Cyngor ddatblygu sawl prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif diolch i gyllid ychwanegol gwerth £85miliwn gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys ysgol arbennig newydd a chyfleusterau gwell yn Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau.
Ar ddydd Llun, 4 Hydref, bydd Aelodau'r Cabinet yn trafod diweddariad ynghylch Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwygiedig, a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Mae'n nodi bod dyraniad y Cyngor wedi cynyddu'n sylweddol o £167miliwn i £252 miliwn. Mae hyn yn golygu y bydd cyllid ychwanegol gwerth £85miliwn ar gael i drawsnewid ysgolion yn rhan o raglen Band B Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.
Bydd yn helpu i gyflawni ymrwymiadau allweddol pellach - gan gynnwys gwella darpariaeth ysgolion arbennig ac ysgolion Cymraeg, gan ddarparu rhagor o gyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif a chynyddu nifer y cyfleusterau cymunedol lleol yn rhan o'r datblygiadau yma.
Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn amlinellu nifer o brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif y byddai modd eu datblygu gan ddefnyddio'r cyllid ychwanegol gwerth £85miliwn, gan gynnwys:
- Ysgol Llanhari - moderneiddio a newid y mwyafrif o adeiladau presennol yr ysgol.
- Ysgol Cwm Rhondda - creu ysgol 3-19 oed newydd trwy ailfodelu a moderneiddio'r safle presennol, neu adeiladu ysgol newydd sbon ar safle arall.
- Darpariaeth gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer ardal Glyn-coch - disodli'r ddwy ysgol bresennol, yn amodol ar ymgynghoriad statudol ynghylch ad-drefnu ysgolion a'r gweithdrefnau penderfynu.
- Ysgol arbennig newydd - er mwyn ymateb i'r galw cynyddol ar gyfer darpariaeth ysgol arbennig.
- Ysgol Gynradd Pen-rhys - Ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
- Ysgol Gynradd Maes-y-bryn (Llanilltud Faerdref) Ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
- Ysgol Gynradd Tonysguboriau (Tonysguboriau) - Ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Mae'r adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo datblygu'r Rhaglen ddiwygiedig, ac yn cytuno i dderbyn diweddariadau pellach ynglŷn â chynnydd y prosiectau yma yn sgil gweithdrefnau cymeradwyo cyllid Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw ymgynghoriad statudol sy'n ofynnol yn cael ei gynnal yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, tra bydd cyfraniad ariannol y Cyngor ar gyfer pob prosiect yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn i'w gymeradwyo maes o law.
Y Cynnig ynghylch Ysgol Arbennig
Bydd y Cabinet hefyd yn ystyried adroddiad ar wahân sy'n rhoi rhagor o fanylion am y cynnig uchod i adeiladu ysgol arbennig newydd yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yn helpu i leddfu pwysau ar yr ysgolion arbennig presennol, gan gynnwys cynnydd pellach a ragwelir yn nifer y disgyblion ynghyd â chyfyngiadau ar safleoedd ysgolion presennol.
Mae hyn ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo adolygiad manwl o ysgolion arbennig y Fwrdeistref Sirol y mis Chwefror, gyda'r bwriad o gyflwyno cynigion buddsoddi yn y dyfodol i wella'r ddarpariaeth gyfredol ac ateb y galw cynyddol.
Mae'r adroddiad wedi'i ddiweddaru yn cadarnhau bod nifer y disgyblion wedi cynyddu unwaith eto i 600 ym mis Medi 2021 (o 577 y llynedd a 483 yn 2013/14) - ac mae'n ymddangos yn anochel y bydd nifer y disgyblion yn parhau i gynyddu. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi ei bod hi'n debygol y bydd cynnydd o ran pa mor gymhleth yw anghenion y disgyblion yn y dyfodol hefyd.
Daw'r adroddiad i'r casgliad mai'r unig ddewis ymarferol arall a fydd yn bodloni'r pwysau cynyddol yw adeiladu ysgol arbennig newydd - gan gynyddu'r nifer o ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf o bedair i bump. Byddai gan ysgol arbennig sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif fynediad i gyfleusterau therapiwtig ac offer ac adnoddau arbenigol. Mae gwaith arfarnu ynghylch sawl safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd wedi cyrraedd y camau olaf.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Bydd y Cabinet yn mynd ati cyn bo hir i ystyried adroddiad sy'n amlinellu cyfres o gynigion cyffrous iawn i fuddsoddi mewn cyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae hyn yn bosibl ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'i Rhaglen Amlinellol Strategol, gan ddyrannu £85miliwn pellach i Rondda Cynon Taf.
“Mae'r Cyngor eisoes wedi cwblhau nifer o gynlluniau parhaus ym Mand B o Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Mae adeilad newydd Ysgol Gynradd Hirwaun gwerth £10.2miliwn wedi'i gwblhau, ac roedd prosiectau gwerth £12.1miliwn a £4.5miliwn ar safleoedd Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr wedi dechrau yn ystod yr haf.
“Rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â sawl cynllun ar gyfer y dyfodol sydd eisoes wedi'i gadarnhau. Mae ymgynghoriad cynllunio wedi cychwyn ar gyfer Ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen, ac mae'r cam dylunio manwl bron â chael ei gwblhau ar gyfer tair ysgol gynradd newydd a ariennir gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol - yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref. Mae cynlluniau sefydlu ysgolion pob oed ym Mhontypridd a'r Ddraenen Wen yn mynd rhagddo, ynghyd â chynllun ar gyfer bloc chweched dosbarth newydd yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog.
“Mae'r cynnydd pellach yng nghyllid Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif yn darparu cyfle cyffrous i ragor o ddisgyblion elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf. Bydd y Cabinet yn mynd ati cyn bo hir i drafod cynigion ynghylch ysgolion presennol yn Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau.
“Byddai'r cynlluniau ar gyfer Ysgol Llanhari ac Ysgol Cwm Rhondda yn diweddaru'r cyfleusterau, gan alluogi rhagor o ddisgyblion i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg - wrth i ni barhau i weithio tuag at ddeilliannau'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Byddai'r cynigion hefyd yn darparu cyfleusterau cymunedol ac ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wir eu hangen yn ardal Glyn-coch ac Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau.
Byddai cynigion i fuddsoddi mewn ysgol arbennig newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn ymateb i'r pwysau presennol o ran capasiti yn ein pedair ysgol arbennig ac yn darparu cyfleuster newydd i fodloni'r galw y mae disgwyl iddo gynyddu eto yn ystod y blynyddoedd nesaf. Byddai'r ysgol newydd hefyd yn caniatáu adolygiad o ddalgylchoedd ac opsiynau ar gyfer adlinio, wedi'u cyflawni ochr yn ochr ag adolygiad o'r ddarpariaeth ysgol arbennig bresennol, yn y sir a thu hwnt, fel bod modd i'r disgyblion hynny sydd â'r Anghenion Dysgu Ychwanegol mwyaf sylweddol gyrchu'r ddarpariaeth orau bosibl.
“Byddai pob un o’r ysgolion arfaethedig, os caiff y cynigion eu cymeradwyo, hefyd yn ein helpu i gyflawni ein targedau a’n hymrwymiadau o ran Newid yn yr Hinsawdd - gan ddarparu adeiladau newydd sbon sydd wedi’u hachredu yn rhan o Fodel Cynaliadwyedd Methodoleg Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ac sy'n gweithredu dull Carbon Sero-Net. Mae'r cynigion hyn yn bwriadu rhoi ysgolion wrth galon ein cymunedau, gan adeiladu ar hanes rhagorol y Cyngor o ddarparu cyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif i'n disgyblion.”
Ers iddyn nhw gael eu cymeradwyo yn 2017, mae cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â sawl cynllun buddsoddi:
- Mae cynllun trawsnewid Ysgol Gynradd Hirwaun wedi'i gwblhau;
- Mae gwelliannau Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun yn mynd rhagddo;
- Mae ymgynghoriad cynllunio wedi cychwyn mewn perthynas ag Ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen;
- Mae'r cam dylunio manwl ar gyfer 3 ysgol gynradd newydd wedi'u hariannu gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol bron wedi'i gwblhau, yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref;
- Mae'r cynllun i sefydlu 2 ysgol bob oed yn ardal Pontypridd a'r Ddraenen Wen; a
- Chynlluniau i greu bloc newydd ar gyfer y 6ed dosbarth a gwelliannau sylweddol i Ysgol Gyfun Bryncelynnog wedi cyrraedd y cam dylunio ac yn cael eu cynnwys yn rhan o'r rhaglen drawsnewid ehangach ar gyfer darpariaeth addysg yn ardal Pontypridd, yn rhan o fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £55miliwn.
Wedi ei bostio ar 28/09/2021