Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r newyddion diweddaraf am Bont Castle Inn yn Nhrefforest, ac mae'n gweithio'n agos gyda sefydliadau Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu rhaglen o waith i ailadeiladu ac ailagor y strwythur yn y dyfodol.
Mae'r bont droed Rhestredig wedi aros ar gau ers i’r strwythur gael ei ddifrodi’n ddifrifol yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Fe achosodd y storm y glaw trymaf a'r llifoedd afonydd uchaf erioed yn ôl cofnodion am ardal Rhondda Cynon Taf. Arweiniodd hyn at y llifogydd mwyaf difrifol ers y 1970au.
Yn dilyn Storm Dennis, mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith, yn gwneud gwaith ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gwneud mân waith mewn dros 100 o leoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn gwneud gwaith ymchwil i'r strwythur. Erbyn hyn, mae'n gallu cadarnhau bod rhaglen i osod pont newydd yn cael ei datblygu. Mae ymgynghorwyr y Cyngor, Redstart, yn bwrw ymlaen â gwaith dylunio pont newydd a gwaith cysylltiedig.
Mae'r holl arolygon bellach wedi'u cwblhau ac mae disgwyl i'r adroddiadau dilynol gael eu cyflwyno i sefydliad Cadw a Llywodraeth Cymru cyn bo hir. Mae disgwyl i'r prosiect cyflwyno tendr erbyn y Nadolig, a'r bwriad yw y bydd y prif waith ar y bont yn cychwyn yng Ngwanwyn/Haf 2022. Rhagwelir y bydd yr holl waith wedi'i gwblhau erbyn Gaeaf 2022.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet dros faterion Priffyrdd: “Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Cadw, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i drafod opsiynau ar gyfer dyfodol pont Castle Inn yn dilyn y difrod difrifol i’r strwythur yn ystod y llifogydd dinistriol a ddaeth yn sgil Storm Dennis.
“Yn anffodus, mae maint y difrod yn gofyn am osod pont newydd er mwyn sicrhau ei ddyfodol tymor hir. Mae ymgynghorwyr y Cyngor yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddylunio pont newydd a gwaith cysylltiedig.
“Rydyn ni'n rhagweld y bydd gwaith yn cychwyn ar y safle yng Ngwanwyn 2022, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi'r newyddion diweddaraf maes o law.”
Wedi ei bostio ar 17/09/2021