Skip to main content

Dros 80,000 o ymwelwyr i Lido Ponty yn 2021!

Lido water

Hyd yn hyn, mae dros 80,000 o bobl wedi ymweld â Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn 2021, er gwaethaf y cyfyngiadau symud parhaus i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19. Dyma ail flwyddyn brysuraf y cyfleuster poblogaidd ers iddo ailagor yn 2015.

Yn dilyn y galw anhygoel am leoedd, cyhoeddodd y Cyngor fis diwethaf y byddai tymor haf y Lido yn cael ei ymestyn tan ddydd Sul, 3 Hydref er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fwynhau defnyddio'r cyfleuster. Dechreuodd y tymor estynedig ddydd Llun, 6 Medi, ac mae sesiynau cyhoeddus bellach fel a ganlyn:

Mae'r ddwy sesiwn ben bore am 6:30am i 7:30am a 7:45am i 8:45am, gyda dwy sesiwn yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener, 4:00pm i 5:00pm a 5:30pm i 6:30pm.

Mae dwy sesiwn ychwanegol wedi'u hychwanegu rhwng 9.30am a 10.30am, a rhwng 2pm a 3pm. Mae'r sesiynau newydd yma'n cael eu cynnal bob dydd yn ystod yr wythnos ac yn galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio'r prif bwll a'r pwll gweithgareddau ar gyfer nofio hamddenol a nofio mewn lonydd. Mae hefyd modd i blant sydd ddim yn yr ysgol ar hyn o bryd ddefnyddio'r pwll sblash â ffynnon i fabanod.

Dydy'r sesiynau penwythnos ddim wedi newid. Bydd y ddwy sesiwn ben bore a'r saith sesiwn gweithgaredd hwyliog sy'n cychwyn am 9:00am yn parhau.

Byddwn ni'n parhau i gyfyngu ar nifer y lleoedd dyddiol sydd ar gael er budd diogelwch y cyhoedd.

Am ragor o wybodaeth a manylion ynglŷn â chadw lle, ewch i www.lidoponty.co.uk

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn defnyddio Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, gyda dros 80,000 o ymwelwyr yn mynd drwy’r gatiau yn 2021 -  dyma’r ail dymor prysuraf ers 2015. 2019 oedd y flwyddyn brysuraf i ni.

“Er gwaethaf y difrod helaeth yn ystod llifogydd dinistriol Storm Dennis, ac yna'r cyfyngiadau ar nifer y lleoedd ar gael oherwydd pandemig COVID-19, mae'r ffigurau'n siarad cyfrolau ac yn dangos pa mor boblogaidd yw'r Lido ymhlith ein trigolion lleol ac ymwelwyr i’n Bwrdeistref Sirol.

“Fis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor y byddai'r Lido yn ymestyn ei dymor haf tan 3 Hydref i gydnabod y galw am leoedd ac i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl i gadw lle a defnyddio'r cyfleusterau gwych sydd ar gael. ”

Wedi ei bostio ar 16/09/2021