Skip to main content

Cefnogi Diwrnod Cenedlaethol y Llynges Fasnachol

Merchant Navy Flag

Mae'r Cyngor yn falch o gefnogi Diwrnod Cenedlaethol y Llynges Fasnachol (ddydd Gwener 3 Medi), er cof am y 40,000 o forwyr a fu farw tra'n gwasanaethu'r Llynges Fasnachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd nifer o'r rhain drigolion lleol.

Y Lluman Coch yw baner swyddogol Morlu (neu Fflyd) Masnachol Prydain. Byddwn ni'n gosod y faner yma ar frig adeilad Llys Cadwyn ym Mhontypridd ar 3 Medi.

Roedd y 40,000 o forwyr a fu farw wrth wasanaethu yn y Llynges Fasnachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd rhwng 14 a 78 mlwydd oed. Ymhlith y rhain roedd 8,500 o forwyr Asiaidd o bob cwr o'r byd, a fu'n gwasanaethu Llynges Fasnachol Prydain.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yr Awdurdod: “Rydw i'n falch iawn bod ein Cyngor yn nodi Diwrnod Cenedlaethol y Llynges Fasnachol trwy godi’r faner swyddogol ar un o adeiladau pwysig y Cyngor yng nghanol y Fwrdeistref Sirol.

“Gwasanaethodd llawer o’n pobl leol yn y Llynges Fasnachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe gollodd sawl un ei fywyd o dan amgylchiadau trist iawn.

“Brwydr Môr yr Iwerydd oedd yr ymgyrch hiraf yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1939, roedd Prydain yn dibynnu ar ei llwybrau cludo yng Ngogledd yr Iwerydd ac roedd angen mewnforio nwyddau hanfodol o'r Unol Daleithiau a Chanada. Collodd cyfanswm o 60,000 o forwyr Masnachol y Cynghreiriaid eu bywydau, ac rydyn ni'n cofio amdanyn nhw ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Llynges Fasnachol.

“Mae'n ddiwrnod i gofio'r rhai a fu farw, yn ogystal â diolch i'r rhai a ddychwelodd adref yn ddiogel at eu hanwyliaid. Mae hefyd yn ddiwrnod i ddangos ein cefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog - Ddoe a Heddiw. Mae ein dyled iddyn nhw yn sylweddol. "

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.

Cyngor Rhondda Cynon Taf: Cyfamod y Lluoedd Arfog RhCT

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bost:GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 i gael cymorth a chyngor cyfrinachol.
Wedi ei bostio ar 01/09/2021