Skip to main content

Cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Addysgu

Mae'r Cyngor yn cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Addysgu ddydd Iau, 16 Medi, i ddathlu'r cyfraniad gwerthfawr maen nhw wedi'i wneud i addysg ledled Rhondda Cynon Taf trwy gydol y pandemig.

Mae'n Cynorthwywyr Addysgu ni wedi rhoi cymorth hanfodol i ddisgyblion o bob oed, yn ogystal â'u cydweithwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Meddai'rCynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant

“Mae Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Addysgu yn gyfnod i fyfyrio ar y 18 mis diwethaf ac i ddangos ein gwerthfawrogiad a'n diolch i'n holl gynorthwywyr addysgu ni ledled ein Bwrdeistref Sirol.

“Trwy gyfnod ofnadwy, ac yn aml o dan amgylchiadau anodd iddyn nhw eu hunain, maen nhw wedi aros yn broffesiynol, gan roi cefnogaeth a chymorth i’n hathrawon, ein cyrff llywodraethu, ein hysgolion, ac yn bwysicaf oll i’r disgyblion eu hunain.

“Roedden nhw o gymorth mawr hefyd yn ystod y cyfnod dysgu o bell, gan helpu disgyblion o bob oed i ddysgu’n effeithiol gartref yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Mae Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Addysgu yn ddiwrnod i ni ddiolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith rhagorol, trwy'r dyddiau da a'r dyddiau drwg. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich cyfraniad enfawr i Addysg yn Rhondda Cynon Taf.”

Nod Diwrnod Cenedlaethol Cynorthwywyr Addysgu yw codi ymwybyddiaeth o waith caled ac ymdrechion cynorthwywyr addysgu ledled y DU, a chydnabod eu cyfraniad i'r ystafell ddosbarth a'r berthynas dda sydd ganddyn nhw a'r athrawon a'r disgyblion.

#DiwrnodCenedlaetholCynorthwywyrAddysgu #NationalTADay

Wedi ei bostio ar 16/09/21