Mae'r wythnos yma'n nodi Wythnos Dim Gwastraff ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i breswylwyr FEDDWL cyn rhoi sbwriel yn y BIN.
Bob tro y byddwch chi'n rhoi eitem yn eich gwastraff bag du, ceisiwch AROS a MEDDWL - ai hwn yw'r lle gorau i gael gwared ar yr eitem dan sylw?
Mae Cyngor RhCT yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ailgylchu ar ymyl y palmant, gan gynnwys ailgylchu deunyddiau sych, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu cewynnau - dim ond 20% o wastraff cyffredinol eich cartref y dylech chi fod yn ei roi yn eich gwastraff bag du.
Dewch i ni weithio gyda'n gilydd er mwyn ailgylchu cynifer o bethau a phosibl, a lleihau'r gwastraff yn ein bagiau du.
Mae mwy na 34,400 tunnell o ddeunydd ailgylchu wedi'i gasglu o ymyl y palmant yn RhCT ers mis Ionawr 2021, sy'n cynnwys mwy na 8,600 tunnell o wastraff bwyd!
Mae bod yn effro wrth siopa yn ffordd bwysig o leihau gwastraff. Dylech FEDDWL cyn rhoi'r eitem yn eich basged. Mae hyn yn fwy anodd wrth siopa ar-lein, ond bydd y prosesau syml yma'n ein helpu i greu llai o wastraff yn y pen draw.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:
“Mae preswylwyr RhCT bob amser yn gwneud ymdrech arbennig i ailgylchu. Serch hynny, pe byddai modd i ni fynd gam bach ymhellach a lleihau'r gwastraff cartref rydyn ni'n ei greu gan dunnell neu ddwy, byddai hynny'n cael effaith wych ar Rondda Cynon Taf a gweddill y byd, wrth i ni geisio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
“Mae ailgylchu yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor a bydd yn chwarae rhan ganolog wrth helpu'r Cyngor i gyflawni ei darged o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Bydd targed ailgylchu nesaf y Cyngor yma gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025 yn 70%. Os gallwn ni gynnal ein cyfradd ailgylchu bresennol a gwella ychydig arni, rydyn ni ar y trywydd iawn i gyflawni hyn gryn dipyn yn gynharach nag y mae angen i ni ei wneud. Y gobaith yw bydd y cyfleusterau niferus sydd gyda ni yn RhCT, gan gynnwys y Cyfleuster Adennill Deunydd ym Mryn Pica, yn ein helpu i ragori ar darged y Llywodraeth a symud yn nes at ein targed o 80% erbyn 2024/25.
“Rydyn ni angen cefnogaeth ein preswylwyr i wneud hyn. Rydw i'n gofyn i bawb ailgylchu un peth arall ac Aros a Meddwl cyn taflu sbwriel i'r Bin. Mae'r targed newydd yma'n gyraeddadwy a bydd yn dangos i ni sut mae modd i roi newidiadau ar waith yn lleol ein helpu ni i wneud gwahaniaeth yn fyd-eang. ”
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff sych, gwastraff bwyd a gwastraff ‘gwyrdd’ i'w ailgylchu bob wythnos AM DDIM i dros 100,000 o gartrefi – sy'n golygu 169 o weithwyr a 78 o gerbydau.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd, mae gan y Cyngor chwech o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.
Cofiwch ddidoli eich deunyddiau i'w hailgylchu yn ddeunyddiau papur, cardfwrdd, gwydr a metal ac ati cyn mynd i'r canolfannau. Bellach, dydyn nhw ddim yn derbyn bagiau ailgylchu cymysg.
Dyma leoliad y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn y Fwrdeistref Sirol:
- Tŷ Amgen, Llwydcoed, CF44 0BX
- Cymmer Road, Dinas, CF39 9BL
- Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
- Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
- Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, CF72 8YT
- Ystad Ddiwydiannol Treherbert, CF42 5HZ
Bydd yr holl ganolfannau hyn yn diwallu eich anghenion o ran ailgylchu gwastraff, gan gynnwys nwyddau gwynion, cardfwrdd, dillad, plastig, hen oleuadau, pren, gwydr, metel, olew injan, tiwbiau fflworolau, plastrfwrdd, hen deganau, paent, teiars, hen setiau teledu a llawer yn rhagor.
Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor ddwy siop ailddefnyddio o'r enw 'The Shed' wedi'u lleoli yng Nghanolfannau Ailgylchu Treherbert a Llantrisant. Bydd y ddwy siop yma'n cymryd eitemau sy'n gweithio'n berffaith er mwyn rhoi bywyd newydd iddyn nhw, a'u hatal rhag cael eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi.
Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n hapus i roi cyngor i breswylwyr ar faterion ailgylchu a'u cynorthwyo i gael gwared ar eu deunydd o'r cartref.
Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 7.30pm ac mae modd mynd â fan neu drelar i'r canolfannau er mwyn cael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith am gyfnod arall. Mae rhagor o fanylion ar https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.
Dylech roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn dau fag a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.
Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.
Wedi ei bostio ar 06/09/21