Bydd y Cyngor yn dechrau cynllun lleol i wella'r system draenio yn Nheras Tanycoed yn Abercwmboi. Bydd y gwaith pwysig yma'n uwchraddio'r isadeiledd sydd eisoes yn bodoli, gan ddefnyddio cyllid a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Iau 1 Medi, er mwyn uwchraddio rhan o'r cylfat cwrs dŵr cyffredin sydd eisoes yn bodoli i helpu i leddfu'r risg o lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae'r cynllun wedi elwa gan gyfraniad o 85% gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o'r Grant Gwaith Graddfa Fach sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith i osgoi llifogydd. Mae'r cyfraniad o 15% sy'n weddill yn dod gan Raglen Gyfalaf y Cyngor 2022/23 ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol.
Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting yn gontractwr ar gyfer y cynllun. Bydd angen cau'r ffordd am gyfnod o wyth wythnos fel rhan o'r gwaith, sy'n cyfyngu ar yr ardal barcio sydd ar gael i drigolion. Mae hysbysiadau wedi eu gosod ar y safle i hysbysu'r gymuned, tra bod trigolion wedi derbyn llythyrau yn amlinellu'r gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r gwaith yn Nheras Tanycoed, Abercwmboi, yn cynrychioli'r cynllun diweddaraf i helpu i leihau'r risg o lifogydd mewn cymunedau yn ein Bwrdeistref Sirol. Bydd y gwaith yn uwchraddio'r rhwydwaith cylfat cwrs dŵr cyffredin i wella'i capasiti yn ystod stormydd - wrth i ni groesawu cyllid pwysig Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith.
"Mae gwneud ein rhwydweithiau'n fwy cydnerth i stormydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gyda gwariant o £12 miliwn yn mynd tuag at uwchraddio'r isadeiledd a £15 miliwn ar waith atgyweirio yn dilyn stormydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â Storm Dennis fydd yn cael ei gynnal yn 2022/23. Mae hyn ar ben y £3.9 miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd ar draws rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach.
"Mae cynlluniau pwysig eraill wedi dechrau'r haf yma, yn cynnwys Cynllun Lliniaru Llifogydd Bronallt Uchaf yn Abercwmboi ym mis Mehefin, ac yn dilyn y gwaith yma dechreuodd Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci ym mis Gorffennaf.
"O ganlyniad i'r gwaith sydd ar y gweill yn Nheras Tanycoed yn Abercwmboi, bydd angen cau'r ffordd dros dro. Bydd y gwaith yn tarfu ar drigolion gan fod y gwaith yn cyfyngu ar yr ardal barcio sydd ar gael. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r contractwr i gwblhau'r cynllun mor effeithlon â phosibl – diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad."
Wedi ei bostio ar 26/08/2022