Skip to main content

Carreg filltir bwysig ar gyfer cynllun deuoli'r A4119 wrth i'r gwaith ddechrau

The A4419 and the South Wales Fire and Rescue Service roundabout

Bydd gwaith yn dechrau ar y safle ar 15 Awst i gyflawni cynllun deuoli’r A4119 Coed-elái. Mae’r trefniadau rheoli traffig bellach wedi'u cadarnhau, gyda'r holl waith aflonyddgar yn cael ei gynnal yn ystod y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Yn rhan o’r cynllun sylweddol darperir ffordd ddeuol 1.5 cilomedr o hyd a llwybr i'r gymuned a rennir ar wahân o Gylchfan Coed-elái i Barc Busnes Llantrisant, ynghyd â phont teithio llesol newydd yn croesi’r A4119 i’r de o gylchfan Coed-elái i ddarparu llwybr newydd i'r gymuned i’r pentref. Bydd Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn cyflawni’r gwaith, i’w gwblhau yn 2024.

Cynhaliodd y contractwr arddangosfeydd cyhoeddus yn ddiweddar yn Ynysmaerdy a Choed-elái (6-7 Gorffennaf), gan roi’r cyfle i'r gymuned ddysgu rhagor am y gwaith a’r cynllun rheoli traffig angenrheidiol. Daeth nifer fawr o drigolion i'r achlysuron hyn.

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau heddiw y bydd y cam adeiladu yn dechrau o ddydd Llun, 15 Awst, wrth i waith ddechrau ar y safle o'r dyddiad yma.

Er mwyn cyflawni’r cynllun, mae rhai newidiadau pwysig i’r trefniadau rheoli traffig ar gyfer modurwyr. Fodd bynnag, er mwyn lleihau’r aflonyddwch yn sylweddol, byddwch yn effro i’r ffaith y bydd yr holl lonydd angenrheidiol ar gau gyda’r nos, felly bydd yr A4119 yn cynnal traffig dwy ffordd ar ôl 6am a chyn 9pm bob dydd.

Trefnau rheoli traffig sydd eu hangen o 15 Awst

Bydd terfyn cyflymder dros dro o 40mya ar waith ar yr A4119 er mwyn sicrhau diogelwch – o Gylchfan Dôl Elái i Gylchfan Ynysmaerdy, tua’r gogledd-orllewin o gylchfan Coed-elái am bellter o 1.25 cilomedr, a rhwng cylchfannau Coed-elái a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Bydd terfyn cyflymder dros dro o 30mya ar waith rhwng cylchfannau Ynysmaerdy a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac ar bob dynesiad at Gylchfan Coed-elái. Bydd hefyd gyfyngiad dros dro ar oddiweddyd rhwng cylchfan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i bwynt sydd 1.25 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Gylchfan Coed-elái.

Bydd modd i'r rhai sy'n teithio drwy ardal y gwaith weld arwyddion clir o’r holl derfynau cyflymder dros dro, a threfniadau eraill ar gyfer modurwyr.

Bydd gwaith dros nos (9pm tan 6am) yn ofynnol pan fo angen. 

Bydd y gwaith mwy aflonyddgar sydd ei angen i symud y cynllun yn ei flaen yn cael ei drefnu gyda'r nos, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion a chymudwyr. Bydd hyn yn cael ei drefnu rhwng 9pm a 6am y diwrnod canlynol, a bydd arwyddion rhybudd ymlaen llaw yn cael eu gosod saith diwrnod cyn dechrau pob sifft gwaith nos.

Bydd angen terfyn cyflymder dros dro o 10mya o bryd i'w gilydd, o Gylchfan Dôl Elái i bwynt sydd 1.25 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Gylchfan Coed-elái.

Bydd angen cau ffyrdd dros dro mewn rhai achosion, rhwng cylchfannau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Choed-elái. Bydd llwybr arall ar gael ar hyd yr A4119 i Gylchfan Tonypandy, yr A4058 i Bontypridd, yr A470 i Lan-bad, Heol Tonteg, a llwybr yr A473 ar hyd Tonysguboriau a Llantrisant. Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys pan fydd y ffyrdd yma ar gau.

Bydd angen cau llwybrau troed dros dro a gwahardd beicwyr dros dro pan fo angen, rhwng cylchfannau Ynysmaerdy a Choed-elái. Mae llwybr amgen ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar hyd Pont Droed Ynysallan, Teras Ynysmaerdy, yr hen reilffordd a Heol Mynydd Garthmaelwg.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd i ddod i gyflawni'r cynllun sylweddol yma.

Am ragor o fanylion am y cynllun, gan gynnwys yr wybodaeth a gafodd ei rhannu yn yr arddangosfeydd cyhoeddus diweddar a sut i gysylltu â charfan y prosiect, ewch i hafan y prosiect ar wefan y contractwr.

Mae cynllun deuoli'r A4119 Coed-elái yn fuddsoddiad â blaenoriaeth er mwyn gwella cysylltedd lleol yn sylweddol i ranbarth strategol Porth Rhondda, a hynny drwy wella llif traffig yn yr ardal brysur yma. Bydd yn sbardun ar gyfer safle'r hen bwll glo, Parc Coed-elái, sef lleoliad uned fusnes modern newydd y Cyngor, sy'n rhan o safle ehangach sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun hefyd yn gwella'r ddarpariaeth teithio llesol ar gyfer y gymuned leol yng Nghoed-elái.

Cafodd ei gadarnhau ym mis Hydref 2021 fod y Cyngor wedi cael cyllid gwerth £11.4 miliwn oddi wrth Gronfa Ffyniant Bro llywodraeth y DU tuag at gyflawni’r cynllun. Bydd y dyraniad yma, ar ben cyllid y mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ymrwymo, yn ariannu'r cam adeiladu i gyflawni'r cynllun.

Wedi ei bostio ar 05/08/22