Cadarnhawyd y bydd y gofeb syfrdanol a gafodd ei chreu gan yr arlunydd lleol, Nathan Wyburn, yn aros yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn barhaol.
Cafodd y cerflun ei greu gan Nathan yn rhan o raglen deledu Landmark Sky TV lle cafodd arlunwyr y dasg o greu darn o gelf sy'n adlewyrchu eu cenedl.
Aeth Nathan ati i greu “21.10.1966 144 9.13am”, a enwyd gan gyfeirio at ddyddiad ac amser trychineb Aber-fan, ac at nifer y bobl a gafodd eu lladd pan gwympodd gwastraff pwll glo ar y pentref y diwrnod trychinebus hwnnw.
Cafodd y darn ei wneud o goncrit a dur ac mae'n cynnwys 144 o glociau – mae pob un ohonyn nhw wedi'u gosod ar 9.13am. Dyma gofeb ingol i'r rheiny a fu farw yn y trychineb. Mae'r gwaith celf wedi bod yn Nhaith Pyllau Glo Cymru dros dro ers dros flwyddyn.
Cadarnhawyd y bydd y gofeb yn aros yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, sy'n lleoliad addas ar gyfer y darn ingol.
Mae Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i hadeiladu ar hen safle Glofa Lewis Merthyr ac mae llawer o nodweddion y lofa i'w gweld heddiw.
Mae tywyswyr Taith yr Aur Du yn gyn-lowyr a weithiodd ym mhyllau glo Cwm Rhondda yn fechgyn ifainc.
Mae modd i ymwelwyr â Thaith Pyllau Glo Cymru weld y cerflun wrth gyrraedd y safle. Mae'r arddangosfeydd ar y safle yn archwilio sut beth oedd bywyd yn ystod cyfnod y pyllau glo, gan esbonio pwysigrwydd glo a sut oedd wedi pweru'r byd.
Mae'r iard yn cynnwys safleoedd gwreiddiol y lofa, gan gynnwys dramiau o lo a lloches Anderson. Mae modd gweld arddangosfa'r Efail, sy'n archwilio rôl gof y lofa a'r ceffylau a helpodd y glowyr.
Y prif atyniad yw Taith yr Aur Du. Dewch i gwrdd â'r dynion aeth i weithio yn y pyllau glo pan oedden nhw'n fechgyn. Gwisgwch helmed glöwr ac ymunwch â nhw ar daith dan ddaear ac yn ôl mewn amser lle byddan nhw'n rhannu eu profiadau ac atgofion personol â chi.
Ewch ar DRAM!, reid sy'n dynwared taith i ben y pwll.
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i:
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'n fraint enfawr bod modd i gofeb anghredadwy Nathan Wyburn i Drychineb Aber-fan aros yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn barhaol.
“Dyma drychineb fyddwn ni byth yn ei anghofio ac mae Cymru'n cynnal munud o dawelwch bob blwyddyn i gofio'r rheiny a fu farw y bore hwnnw.
“Mae'n addas iawn felly fod y gofeb i'w gweld mewn lleoliad sydd â'i wreiddiau dyfnion yn y diwydiant glo ac sydd yng nghanol un o'r ardaloedd codi glo mwyaf yn y byd. Bu farw miloedd o bobl o ganlyniad i drychinebau pyllau glo yn Rhondda Cynon Taf felly mae gyda ni gysylltiad ag Aber-fan.”
Wedi ei bostio ar 26/08/2022