Mae gwyliau'r ysgol wedi cyrraedd ac mae'r Cyngor unwaith eto'n cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol AM DDIM ar gyfer darllenwyr ifainc ledled y Fwrdeistref Sirol.
Eleni, mae'r Asiantaeth Ddarllen, sy'n cynnal Sialens Ddarllen yr Haf, wedi ymuno â'r Science Museum Group ac mae'n falch o gyflwyno’r Teclynwyr (The Gadgeteers).
Bob blwyddyn, mae cannoedd o blant lleol yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf, mewn cydweithrediad â Llyfrgelloedd RhCT, yn ystod gwyliau'r ysgol. Eleni byddan nhw'n cymryd rhan mewn her o fyd gwyddoniaeth a fydd yn ysbrydoli dysgwyr a darllenwyr ifainc i weld y wyddoniaeth a’r arloesedd y tu ôl i wrthrychau bob dydd, gan ddangos bod darllen a gwyddoniaeth i bawb eu mwynhau.
Dewch o hyd i'ch llyfrgell agosaf yn Rhondda Cynon Taf
Dywedodd y Cynghorydd Robert Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, gyda chyfrifoldeb am Lyfrgelloedd: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf bob amser yn boblogaidd ymhlith darllenwyr ifainc yn ystod gwyliau’r ysgol, gyda chefnogaeth rhieni a gwarcheidwaid.
“Mae gwyliau ysgol yr haf yn amser pwysig i’n dysgwyr ifainc ymlacio ar ôl ychydig flynyddoedd heriol iawn, ond mae’r un mor bwysig eu bod nhw'n cynnal eu sgiliau llythrennedd ac yn parhau i'w gwella.
“O'r herwydd, mae'r Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol yn parhau i fod yn fenter bwysig a difyr sy'n rhedeg drwy gydol gwyliau'r ysgol, gyda chymorth staff ein llyfrgelloedd a'r Asiantaeth Ddarllen.
"Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog ein pobl ifainc i godi llyfr mewn cyfnod pan fyddan nhw ddim o reidrwydd yn ei wneud. Mae hefyd yn ffordd wych o gyflwyno pobl ifainc i lenyddiaeth ac i ehangu eu dychymyg."
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2022 yn gallu ymuno â'r chwe Theclynwr (Gadgeteer) ffuglennol a defnyddio eu chwilfrydedd a’u rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i ystod eang o ddiddordebau, o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.
Mae modd i ddarllenwyr iau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf AM DDIM eleni ymuno ar-lein neu ofyn am fanylion pellach yn eu llyfrgell leol. Byddan nhw'n casglu sticeri arbennig a gwobrwyon eraill wrth iddyn nhw ddarllen.
Sialens Ddarllen yr Haf y Teclynwyr
Rydyn ni'n annog darllenwyr ifainc i gasglu llyfrau yn ystod gwyliau'r haf er mwyn cynnal neu wella eu sgiliau llythrennedd. Y bwriad yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen hyd at chwe llyfr yn rhan o Sialens Ddarllen yr Haf 2022 yn ystod gwyliau'r haf. Mae sgiliau llythrennedd plant yn tueddu i waethygu yn ystod y cyfnod yma.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2022 ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sialens Ddarllen yr Haf yw'r rhaglen 'darllen er pleser' fwyaf i blant yn y DU. Cafodd y Sialens Ddarllen yr Haf gyntaf ei chynnal yn 1999 ac mae'n fenter flynyddol â thema wahanol bob blwyddyn.
Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Ddarllen, ar y cyd â llyfrgelloedd cyhoeddus, cyhoeddwyr ac ysgolion ledled y DU ac mae'n cael ei chefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Cofrestrwch AM DDIM ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf
Wedi ei bostio ar 11/08/22