Skip to main content

Gwaith adnewyddu safle seindorf mewn parc ym Mhontypridd yn symud ymlaen i'r cam nesaf

Pontypridd bandstand - Copy

Bydd y gwaith o adnewyddu'r safle seindorf ym Mharc Coffa Ynysangharad nawr yn canolbwyntio ar yr ardal gyda ffens o'i chwmpas ar gyfer y gynulleidfa. Fydd ardal y safle seindorf ddim yn cael ei defnyddio dros dro i sicrhau cynnydd diogel y gwaith.

Mae gwaith parhaus ar y safle seindorf yn rhan allweddol o gynllun ehangach i adnewyddu nodweddion treftadol y parc, sy'n barc rhestredig Gradd II. Mae'r cynllun wedi'i wneud yn bosibl diolch i fuddsoddiad o £1.9 miliwn drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan y Cyngor a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Cwmni GKR Maintenance & Building Co. yw'r contractwr sy'n datblygu'r cynllun, sydd hefyd yn cynnwys adnewyddu'r ardd isel, agor canolfan hyfforddi a gweithgareddau newydd, gosod paneli gwybodaeth a chynnal achlysuron newydd i hyrwyddo treftadaeth leol.

O'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 28 Tachwedd bydd gwaith ar y safle seindorf yn dechrau canolbwyntio ar ardal y gynulleidfa. Bydd hynny'n cynnwys gosod wyneb newydd ac ail-broffilio lefelau ar un llwybr er mwyn caniatáu llwybr hygyrch i'r safle seindorf.

Bydd ailosod y llwybr cylchol trwy ganol y gwair yn cynnig mynediad haws i'r meinciau. Bydd amryw o waith arall yn cael ei wneud, gan gynnwys atgyweirio'r waliau cynnal isel ac adnewyddu'r ardd gerrig o gwmpas gwaelod y safle seindorf gyda phlanhigion newydd.

Mae disgwyl i'r gwaith yma gael ei gwblhau yn gynnar yn y gwanwyn yn 2023 – a fydd ardal gyfan y safle seindorf ddim ar gael dros dro er mwyn sicrhau bod modd cwblhau'r gwaith yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Y cynllun treftadaeth parhaus ym Mharc Coffa Ynysangharad yw ail gam y gwelliannau yn y parc poblogaidd, yn dilyn y buddsoddiad o £1.199 miliwn a gafodd ei wneud gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd y llynedd. Gwnaeth y cynllun hwnnw uwchraddio llwybrau troed a goleuadau ledled y parc, a chreu cyfleuster newid dillad yn Lido Ponty.

"Mae'r prosiect presennol gwerth £1.9 miliwn wedi elwa o gyfraniad sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac elfen allweddol o'r gwaith yw adnewyddu safle seindorf hanesyddol y parc. Gan fod cam nesaf y gwaith yn canolbwyntio ar wella ardal y gynulleidfa, bydd angen atal y cyhoedd rhag defnyddio'r safle seindorf cyfan fel mesur angenrheidiol i sicrhau bod modd cwblhau'r gwaith yn ddiogel.

"Hoffwn i ddiolch i'r holl ymwelwyr â'r parc am eu hamynedd ar yr adeg yma wrth i ni weithio i wella'r safle seindorf a chydnabod ei safle fel tirnod treftadaeth allweddol yn y parc. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y Cyngor yn trefnu ail-agoriad mawreddog, gyda diwrnod llawn cerddoriaeth i  ddathlu'r parc fel man gwyrdd hardd yng nghanol Pontypridd."

Ydych chi eisiau darganfod mwy am waith adnewyddu'r safle seindorf? Oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y gweithgareddau a fydd yn digwydd ar ôl yr ail-agoriad? Anfonwch e-bost at CalonTaf@rctcbc.gov.uk i ddarganfod mwy a chymryd rhan.

Wedi ei bostio ar 01/12/22