Mae Cyngor RhCT wedi llwyddo i sicrhau ei Waharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBI) Sifil gyntaf ar ôl i berson ifanc yn Rhondda Cynon Taf gael Gwaharddeb yn y llys ieuenctid yn ddiweddar (ddydd Mawrth, 22 Tachwedd 2022).
Mae'r achos hefyd yn arwyddocaol gan mai dyma'r cais cyntaf am Waharddeb Sifil i Gyngor RhCT ei wneud i'r llys a'r cyntaf i gael ei ganiatáu yn rhanbarth Heddlu De Cymru. Mae'n anfon neges at gyflawnwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol – fydd gweithredoedd o'r fath ddim yn cael eu goddef a bydd canlyniadau i'w hymddygiad nhw.
Mae'r person ifanc yma wedi achosi braw a thrallod sylweddol i'w gymuned leol drwy weithredoedd megis taflu eitemau at geir a phobl, rhoi eiddo ar dân, fandaleiddio a difrodi eiddo, ac achosi aflonyddu parhaus.
Yn rhan o'r Waharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, mae gorchymyn i'r unigolyn fodloni'r amodau canlynol:
- Mae'r Diffynnydd wedi'i wahardd rhag gweithredu neu gymell eraill i ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol, hynny yw, ymddygiad sy'n achosi neu'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i berson neu bersonau sydd ddim o'r un aelwyd yn unrhyw le yn Rhondda Cynon Taf (RhCT).
- Mae'r Diffynnydd, boed ar ei ben ei hun neu drwy gyfarwyddo neu annog eraill, wedi'i wahardd rhag bygwth unrhyw berson â thrais a/neu ddefnyddio iaith ymosodol tuag at unrhyw berson yn unrhyw le yn RhCT.
- Mae'r Diffynnydd wedi'i wahardd rhag taflu unrhyw wrthrychau at unrhyw bersonau neu gerbydau na dringo i eiddo dyw e ddim yn berchen arno yn RhCT.
- Fydd y Diffynnydd ddim yn cario taniwr nac yn rhoi unrhyw eiddo neu dir sydd ddim yn perthyn iddo fe ar dân yn RhCT.
Yn ogystal, mae'r amodau cadarnhaol canlynol hefyd wedi'u cynnwys, ac mae'r rhain yn canolbwyntio ar helpu'r person ifanc i newid ei ymddygiad:
- Parhau i ymgysylltu â'r holl wasanaethau cymorth a mynychu pob apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw gyda'r unigolyn.
- Ymgysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gwblhau unrhyw gyrsiau y mae gofyn iddo fe eu gwneud.
Bydd y Waharddeb ar waith am flwyddyn ac yn weithredol o 22/11/22. Mae hawl i arestio hefyd ynghlwm wrthi.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Mae'r dyfarniad yma'n anfon neges glir iawn – fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ddim yn cael ei oddef yma yn Rhondda Cynon Taf.
"Hoffwn i ddiolch i Swyddogion y Cyngor a'n sefydliadau partner am eu gwaith nhw o gymryd camau i ddelio â'r unigolyn yma a gobeithio y bydd rhai o bryderon y gymuned yn cael eu lleddfu o ganlyniad i gyhoeddi'r Waharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
"Mae'n werth nodi bod yr unigolyn a'i riant/gwarcheidwad wedi croesawu'r dyfarniad fel catalydd i newid ei ymddygiad, a byddwn ni'n sicrhau bod y Cyngor yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth a'r ymgysylltiad angenrheidiol i annog y newid yma.
"Yn unol ag ymrwymiadau'r weinyddiaeth yma, mae'r Cyngor hefyd wedi recriwtio carfan o Wardeiniaid Cymunedol yn ddiweddar i fod yn bresenoldeb amlwg a chysurlon yn ein cymunedau ni i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae'r adborth rydyn ni wedi'i dderbyn gan y cyhoedd hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn."
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Anthony Moyle o Heddlu De Cymru: "Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r achos yma. Mae eu gwaith caled a'u dyfalbarhad nhw wedi arwain at ddyfarniad achos arwyddocaol a fydd yn sicr yn anfon neges gref i'r rhai a fydd yn teimlo bod modd iddyn nhw darfu ar y bobl yn ein cymunedau ni sy'n bennaf yn heddychlon trwy bla ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae hwn yn waith rhagorol ac mae'r canlyniad wedi arwain at y Waharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gyntaf gan unrhyw awdurdod lleol yn rhanbarth yr heddlu.
"Gobeithio y bydd yr achos yma a'r ffordd y mae modd i ni fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol yn esiampl i'n hawdurdodau lleol eraill ddysgu ohoni.
"Byddwn ni'n parhau i dargedu unigolion sy'n fodlon achosi niwed i ddioddefwyr a chymunedau trwy ein gwaith ni gyda phartneriaid yng ngwasanaeth yr heddlu a thu hwnt."
Wedi ei bostio ar 12/12/2022