Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei chyfraniad cyllid tuag at adeiladau ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Bydd modd i waith ddechrau ar bob safle yn ystod yr wythnosau nesaf o ganlyniad i hyn.
Bydd y prosiectau cyffrous yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i'r ysgolion ym Mhont-y-clun, Pentre'r Eglwys a Llantrisant. Mae angen buddsoddiad ar yr ysgolion er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gwbl hygyrch ac i wella’u cyfleusterau fel eu bod nhw’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiectau ei roi ym mis Mawrth 2022 yn dilyn ymgynghoriadau cyhoeddus ar gyfer pob cynllun unigol.
Y llynedd, rhoddodd y Cabinet ganiatâd i’r Cyngor gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) ar gyfer y prosiectau. Dyma elfen cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n galluogi buddsoddiadau o hyd at £500 miliwn ledled Cymru.
Mae'r Cyngor wedi cael cadarnhad yn ddiweddar fod y cyllid wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a chafodd contract MIM y tri phrosiect ei lofnodi'n ffurfiol ddydd Iau 1 Rhagfyr. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gontract 25 mlynedd ar gyfer gwaith dylunio, adeiladu, ariannu a chynnal a chadw adeiladau'r tair ysgol. Mae'r contract gyda Project Co, is-gwmni Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau yn rhan o ffrwd gyllido MIM Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Yn dilyn llofnodi'r contract, bydd gwaith adeiladu'n dechrau'n fuan ar safle pob ysgol – ym mis Rhagfyr 2022 yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, ac ym mis Ionawr 2023 yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi.
Mae cwmni Morgan Sindall Construction wedi cael ei benodi'n gontractwr i adeiladu pob ysgol, a bydd Robertson FM yn gyfrifol am reoli'r cyfleusterau yn barhaus wedi hynny. Bydd pob datblygiad yn anelu at fod yn garbon sero-net, a bydd gan bob un amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf a mannau awyr agored gwell. Mae manylion pellach ynglŷn â phob datblygiad wedi’u nodi isod.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Rydw i wrth fy modd bod contractau Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) wedi cael eu llofnodi ar gyfer y prosiectau cyffrous yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Mae'r garreg filltir yma’n cadarnhau buddsoddiad Llywodraeth Cymru y mae'r Cyngor yn ddiolchgar iawn amdano. Bydd modd i waith adeiladu ddechrau'n fuan iawn o ganlyniad i hyn.
“Bydd y prosiectau'n cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ym mhob ysgol, gan barhau â'r buddsoddiad sylweddol diweddar yn rhan o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a hen Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Bydd cyfleusterau newydd sbon yn cymryd lle adeiladau presennol pob ysgol, sydd mewn cyflwr gwael, a bydd ganddyn nhw fannau awyr agored croesawgar i gyflawni'r cwricwlwm newydd. Bydd y cyfleusterau yma hefyd ar gael i'r gymuned.
“Mae pob un o'n datblygiadau ysgol newydd yn cydymffurfio â nodau ac ymrwymiad y Cyngor mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd, gan anelu at fod yn garbon sero net. Rydw i hefyd yn falch bod y Cyngor wedi cyhoeddi penodi Morgan Sindall yn gontractwr y tri phrosiect. Bydd hyn yn parhau â'n perthynas gwaith ragorol yn dilyn llwyddiant y cwmni i gyflawni prosiectau blaenorol, gan gynnwys ysgolion cynradd newydd yng Nghwmaman a Hirwaun yn ddiweddar.
“Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd y datblygiadau dros yr wythnosau a misoedd nesaf, hyd at y dyddiadau cwblhau sydd wedi'u trefnu ar gyfer 2024 a 2025.”
Mae crynodeb i'w weld isod o'r hyn y bydd y buddsoddiadau'n ei ddarparu ym mhob ysgol:
Ysgol Gynradd Pont-y-clun (erbyn misoedd cyntaf 2025)
Bydd pob adeilad presennol (gan gynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro) yn cael eu dymchwel er mwyn adeiladu adeilad ysgol deulawr newydd a chyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys gwaith tirlunio, draenio a seilwaith. Bydd yn cynnwys dwy ystafell ar gyfer y dosbarth meithrin, dwy ystafell ar gyfer y dosbarth derbyn, pum ystafell ar gyfer yr adran babanod, naw ar gyfer yr adran iau, ardal 'calon yr ysgol' a phrif neuadd gyda chyfleusterau a mannau amrywiol. Bydd meysydd chwarae caled yn cael eu darparu y tu allan, yn ogystal â dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a meysydd chwarae glaswellt anffurfiol eraill. Bydd gan y ddau faes parcio gyfanswm o 40 o leoedd parcio (bydd gan 10% ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a bydd nifer helaeth o fannau storio beiciau yn cael eu darparu. Bydd gan y safle System Ddraenio Drefol Gynaliadwy.
Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref (erbyn y gwanwyn, 2024)
Bydd yr adeilad unllawr newydd yn cael ei adeiladu ar y cae chwarae presennol ar ran ddwyreiniol y safle. Bydd yn cynnwys un ystafell ddosbarth ar gyfer y dosbarth meithrin, un ystafell ddosbarth ar gyfer y dosbarth derbyn, pedair ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran babanod a phum ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran iau – yn ogystal ag ardal 'calon yr ysgol' a phrif neuadd gyda chyfleusterau a mannau amrywiol. Y tu allan bydd ardaloedd wedi'u tirlunio a meysydd chwarae caled a meddwl o gwmpas yr ysgol. Bydd dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd yn cael eu hadeiladu, yn ogystal â chae chwaraeon glaswellt (5 bob ochr) a thrac rhedeg glaswellt 40 metr. Bydd gan y safle System Ddraenio Drefol Gynaliadwy. Bydd 23 o leoedd parcio (bydd gan bedwar ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a nifer helaeth o fannau storio beiciau yn cael eu darparu. Bydd gan y safle System Ddraenio Drefol Gynaliadwy.
Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi (erbyn yr haf, 2024)
Bydd pob adeilad presennol yn cael ei ddymchwel er mwyn adeiladu adeilad deulawr newydd ar gornel ogledd-ddwyreiniol y safle. Bydd gan yr adeilad ddwy ystafell ddosbarth ar gyfer y dosbarth meithrin, un ystafell ddosbarth ar gyfer y dosbarth derbyn, tair ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran babanod a chwe ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran iau, yn ogystal ag ardal 'calon yr ysgol' a phrif neuadd gyda chyfleusterau a mannau amrywiol. Bydd meysydd chwarae caled yn cael eu darparu y tu allan, yn ogystal â chae chwaraeon glaswellt (7 bob ochr), dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a meysydd chwarae anffurfiol ar ochr ddeheuol y safle. Bydd 28 o leoedd parcio (bydd gan bedwar ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a nifer helaeth o fannau storio beiciau yn cael eu darparu. Bydd y safle'n cynnwys System Ddraenio Drefol Gynaliadwy.
Wedi ei bostio ar 02/12/22