Skip to main content

Byddwch yn wyrdd fel gwisg y corachod

Mae'r corachod da a drwg wedi cyrraedd Rhondda Cynon Taf a byddan nhw'n helpu trigolion i ddod o hyd i'w corachod gwyrdd 'oddi mewn' i ailgylchu cymaint ag y gallan nhw dros gyfnod y Nadolig!

Bydd preswylwyr yn gallu darganfod beth mae modd ei ailgylchu trwy ddilyn yr awgrymiadau a chyngor ar-lein yn ogystal â chael ychydig o hwyl gwyrdd ar y ffordd. 

Mae modd i gamau bach gan gorachod gael effaith ENFAWR ar ailgylchu!

Mae modd i newidiadau bach ond GWYCH, megis golchi eitemau mewn dŵr golchi llestri sydd dros ben cyn i ni roi eitemau yn y bagiau clir sicrhau fod yr un tun bach, gyda'r sudd ffa pob dros ben, yn gweld y bag ailgylchu cyfan yn cael ei wastraffu – neu hyd yn oed yn waeth, difetha llwyth lori cyfan ar ôl ei gasglu.

Mae'n bwysig iawn gwybod beth, ble a sut i ailgylchu eitemau'r cartref. Drwy lwc, mae gan RCT adnodd chwilio A-Y sydd ar gael o fore gwyn tan nos i drigolion ei ddefnyddio!

Mae ailgylchu’n chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Yn union fel y mae’r corachod yn dangos i ni, yn aml y pethau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth GWYCH yn ein cartrefi hefyd (er da neu er drwg)!

Mae cyfnod yr ŵyl yn aml yn cynnwys llawer o fwyd ac anrhegion ac mae'r gwastraff o gartrefi yn cynyddu dros tua 30% ar yr adeg yma – sy'n golygu llawer o ddeunydd ychwanegol i'w ailgylchu!

Mae'r corachod wedi bod yn brysur yn chwarae castiau yng nghanol nos! Os ydych chi wedi bod yn taflu papur tŷ bach, yn llithro ar groen banana neu'n lapio cypyrddau'r gegin cofiwch fod yn gorachod da ac i ailgylchu papur tŷ bach, cardfwrdd a phapur lapio yn y bag CLIR ac i roi'r croen banana yn y bag gwastraff bwyd!

Mae modd i drigolion fwynhau Nadolig GWYRDD drwy ailgylchu'r gwastraff bwyd anochel (esgyrn twrci, gweddillion o'r plât ac ati), poteli plastig ychwanegol, papur lapio, cardiau Nadolig, coed Nadolig go iawn, tybiau a hambyrddau, caniau metel, poteli gwydr, jariau, bocsys cardfwrdd a llawer yn rhagor dros y Nadolig.

Dangosodd arolwg diweddar a gynhaliwyd ar Dewch i Siarad (offeryn ymgysylltu ar-lein y Cyngor) fod 100% o gyfranogwyr yn 'dweud' eu bod yn defnyddio gwasanaethau ailgylchu'r Cyngor, 97% yn 'dweud' eu bod yn gwneud hynny'n wythnosol a 95% yn 'dweud' eu bod yn defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd.

Fe ailgylchodd trigolion RhCT dros 59,900 tunnell o ddeunydd rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022. Y newyddion drwg ydy bu rhaid taflu dros 4,220 yn rhagor o dunelli oherwydd halogiad - oni bai am hyn byddai 6.5% yn rhagor wedi cael ei hailgylchu!

Cafodd 12,300 tunnell o wastraff bwyd ei gasglu yn ystod yr un cyfnod - sy'n swm syfrdanol. OND, roedd yn rhaid taflu dros 482 tunnell oherwydd eu bod wedi'u halogi. Dyna bron i 4% yn fwy o wastraff bwyd a fyddai wedi gallu cael ei ailgylchu!

Mae 20% o'r gwastraff rydyn ni'n ei gasglu bob mis yn wastraff bwyd yn Rhondda Cynon Taf. Y newyddion da ydy bod digon o ynni wedi'i gasglu o'r gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu i bweru tua 1180 o aelwydydd!

Os bydd trigolion yn parhau â’r ymdrechion yma dros yr ŵyl ac yn cymryd y camau bach ychwanegol hynny, byddwn ni ar y trywydd iawn i gael Nadolig GWYRDD.

Wrth gwrs, y peth hawsaf i'w ailgylchu yw'r holl blastig, papur a chardfwrdd y dewch chi ar eu traws dros gyfnod y Nadolig. Felly, ar ôl agor yr anrhegion a phendroni ynghylch sut i glirio'r mynydd o focsys, bagiau papur a phapur lapio – ewch i ôl bag ailgylchu clir a'i lenwi. Rhowch yr HOLL bapur lapio mewn bag CLIR ar wahân, gan gynnwys papur lapio ffoil neu sgleiniog. Gwnewch focys cardfwrdd a bagiau papur yn wastad er mwyn gwneud lle yn eich bag ailgylchu.

Er mwyn gwneud rhagor o le yn eich cartref, mae modd i chi fynd ag eitemau does dim modd eu casglu o ymyl y ffordd, fel hen deganau, dillad neu nwyddau trydanol, i ganolfan ailgylchu yn y gymuned - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n didoli eich gwastraff cyn mynd i'r ganolfan.

Mae ein canolfannau ar agor rhwng 8am a 5.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan. Maen nhw'n ailagor dydd Sul 2 Ionawr 2023.

Hoffech chi ragor o fanylion? www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

"Hoffwn ddymuno Nadolig Gwyrdd i'n holl drigolion a diolch i bob un ohonyn nhw am gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer RhCT drwy gydol y flwyddyn.

"Mae cyfnod y Nadolig yn golygu gwastraff ychwanegol ac mae'n amser gwych i chi ddechrau meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl becynnu ychwanegol, papur lapio a chardiau.

"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi pobl ac yn annog trigolion i barhau â'u gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn ei blith.

"Mae ein trigolion wedi bod yn hynod gefnogol tuag at ein gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd hyd yn hyn, a hoffwn i ddiolch iddyn nhw am chwarae eu rhan.

“Daliwch ati gyda’r gwaith gwych a gadewch i ni i gyd gymryd y camau bach i helpu i frwydro yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd a gwneud 2023 yn flwyddyn newydd Gwyrddach.”

Newidiadau i'r trefniadau casglu dros gyfnod y Nadolig:

Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du yn newid yn ystod wythnos y Nadolig.

Bydd casgliadau dydd Llun 26 Rhagfyr yn cael eu casglu ddydd Mawrth 27 Rhagfyr a byddan nhw'n ddiwrnod yn hwyr drwy'r wythnos - dydd Mawrth i ddydd Mercher, dydd Mercher i ddydd Iau, dydd Iau i ddydd Gwener, dydd Gwener i ddydd Sadwrn.

Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod Casglu Dros Dro

Dydd Llun 26 Rhagfyr

Dydd Mawrth (27 Rhagfyr - Gŵyl y Banc),

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Dydd Iau 29 Rhagfyr

Dydd Iau 29 Rhagfyr

Dydd Gwener 30 Rhagfyr

Dydd Gwener 30 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 31  Rhagfyr

Fydd eich casgliadau deunydd i'w ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du wythnosol DDIM YN NEWID yn ystod yr wythnos ganlynol - wythnos yn dechrau dydd Llun 2 Ionawr (wythnos gynta'r flwyddyn newydd).

Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu arferol.

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod Casglu Dros Dro

Dydd Llun 2 Ionawr

Dim newid (Gŵyl y Banc)

Dydd Mawrth 3 Ionawr

Dim newid

Dydd Mercher 4 Ionawr

Dim newid

Dydd Iau 5 Ionawr

Dim newid

Dydd Gwener 6 Ionawr

Dim newid

Bydd gwasanaethau eraill fel casglu eitemau mawr a dosbarthu biniau ag olwynion / biniau gwastraff bwyd yn cael eu hatal o'r wythnos yn dechrau 26 Rhagfyr er mwyn i ni allu defnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mwyaf erioed o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd y gwasanaethau arferol yn ailddechrau o ddydd Llun 9 Ionawr.

Casgliadau Coed Nadolig Go Iawn a Gwastraff Gwyrdd:

O 5 Rhagfyr, bydd modd i drigolion drefnu bod eu coeden Nadolig 'go iawn' yn cael eu casglu o ochr y ffordd rhwng 2 Ionawr ac 16 Ionawr 2023.

Rhaid i drigolion drefnu amser ar gyfer casglu eu coed o leiaf 24 awr cyn eu diwrnod casglu arferol – www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig. Fydd y coed ddim yn cael eu casglu fel mater o drefn.

Yn ystod y cyfnod trefnu casgliad, bydd modd gosod coed Nadolig go iawn allan yn gyfan, fodd bynnag, bydd yn rhaid torri coed dros 4 troedfedd fel bod y criwiau'n gallu eu codi'n ddiogel. Tynnwch BOB golau ac addurn ymlaen llaw.

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd bob pythefnos (gan gynnwys y gwasanaeth casglu coed Nadolig 'go iawn') yn cael ei atal yn ystod yr wythnos yn cychwyn 26 Rhagfyr a bydd y gwasanaeth arferol yn ailgychwyn ddydd Llun 16 Ionawr 2023. Serch hynny, bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu leol yn y gymuned drwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Noder: Mae modd mynd â choed Nadolig artiffisial naill ai i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu drefnu amser ar gyfer casgliad gwastraff swmpus.

Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu I GYD allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu neu ddiwrnod caglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r pafin.

Os nad ydyn ni wedi casglu eich sbwriel /deunyddiau i'w hailgylchu pan ddylen ni fod wedi gwneud hynny, gadewch nhw ar ymyl y palmant. Mae'n bosibl y byddwn ni'n gweithio oriau ychwanegol a byddwn ni'n eich cyrraedd cyn gynted â phosibl. Weithiau bydd ein carfanau yn gweithio'n hwyr yn ystod cyfnodau prysur ac weithiau caiff staff ychwanegol eu galw i mewn i gael gwared â'r eitemau y diwrnod canlynol.

Rydyn ni'n cynghori trigolion i ymweld ag un o'r nifer o fannau casglu ar draws Rhondda Cynon Taf cyn cyfnod yr ŵyl i gasglu digon o fagiau ailgylchu.

Hefyd, hoffai carfan Gofal y Strydoedd atgoffa trigolion i barcio'n synhwyrol er mwyn sicrhau bod modd i'r lorri ailgylchu ddod i lawr eich stryd.

Hoffech chi ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff Nadolig? Dilynwch ni ar Facebook neu Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.

Wedi ei bostio ar 06/12/22