Mae’r Cyngor wedi cael caniatâd cynllunio i ddarparu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i'r ysgol yng Nglynrhedynog ar safle mwy addas.
Rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ganiatâd cynllunio llawn ddydd Iau, 15 Rhagfyr a fydd yn galluogi’r datblygiad i symud yn ei flaen. Roedd y penderfyniad yn unol ag argymhellion swyddogion i gymeradwyo'r cais am ysgol gynradd newydd ar safle hen ffatri cwmni Chubb ('Highland'), gan gynnwys mynediad i gerddwyr, tirlunio, draenio cynaliadwy a pharcio i geir a beiciau.
Bydd yr ysgol newydd a chyfleusterau cymunedol yn barod erbyn 2024, gan elwa ar gyfraniad o 65% gan gynllun Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Cafodd y cynigion eu cymeradwyo gan y Cabinet yn 2021.
Mewn ymgynghoriad cyhoeddus â rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned ehangach ym mis Mawrth ac Ebrill 2021 roedd cefnogaeth leol sylweddol i’r ysgol newydd, gyda 70 o’r 72 o ymatebion ysgrifenedig o'i phlaid. Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2022 rhoddodd ymgynghoriad cyn-ymgeisio ar wahân gyfle pellach i drigolion ddysgu rhagor a dweud eu dweud am y cynlluniau, a oedd yn sail i’r cais cynllunio ffurfiol.
Bydd y buddsoddiad yn gwella cyfleusterau'r ysgol yn sylweddol, gan fynd i'r afael â nifer o'r ffactorau sy'n cyfyngu ar y safle presennol. Mewn arolwg yn 2019, cafodd ei dau adeilad Fictoraidd radd 'D' o ran cyflwr ac 'C' ar gyfer addasrwydd ('A' yw'r radd uchaf a 'D' yw'r isaf). Hefyd, nododd arolygiad gan Estyn fod gydag ardaloedd awyr agored yr ysgol gyfyngiadau. Does dim maes parcio i staff ar y safle a does dim mynediad i fysiau ysgol. Does dim modd gwneud llawer am y materion yma ar y safle presennol chwaith.
Mae'r cais cynllunio yn rhoi caniatâd ar gyfer ysgol unllawr ar dir i'r gogledd o Highfield. Bydd lle i 270 o ddisgyblion, gan gynnwys Cylch Meithrin â 30 o leoedd. Yn fewnol, bydd gyda'r ysgol brif fynedfa ganolog, gyda'r Cylch Meithrin i'r dwyrain a'r ystafelloedd dosbarth i'r gorllewin ohoni. Bydd gyda'r Cylch Meithrin a'r feithrinfa fannau chwarae allanol â ffensys o'u hamgylch.
Bydd to sy'n ymestyn allan dros y brif fynedfa i gysgodi disgyblion wrth ddod i mewn ac allan o'r ysgol. Bydd cyfleusterau awyr agored yn cynnwys ardaloedd chwarae i'r de o'r adeilad, cae chwarae glaswellt ac ardal gemau aml-ddefnydd. Hefyd, bydd ardaloedd chwarae caled a meddal a chynefin ecolegol.
Bydd yr adeilad i'r gogledd o'r safle, ger y fynedfa bresennol o'r A4233 Ffordd y Maerdy ac Ystad Ddiwydiannol Glynrhedynog. Bydd y fynedfa yma ar gyfer staff, bysiau ysgol a rhieni yn ystod amseroedd casglu a gollwng yn unig. Bydd bysiau'n defnyddio system unffordd er mwyn blaenoriaethu diogelwch ar y ffyrdd.
Bydd maes parcio i staff yn cael ei greu i'r gogledd o adeilad newydd yr ysgol, a fydd yn cynnwys 30 o leoedd gan gynnwys dau le hygyrch a thri lle i ymwelwyr. Bydd maes parcio ychwanegol gyda 40 o leoedd ar ochr ddwyreiniol y safle yn cael ei ddefnyddio gan rieni ar amseroedd casglu a gollwng, gan leihau'r angen i barcio ar Heol y Maerdy. Bydd saith o'r lleoedd yma'n cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yn ogystal â hyn, bydd 24 o leoedd beiciau i ddisgyblion yn cael eu cynnwys yn rhan o bedair ardal yn agos at brif adeilad yr ysgol.
Bydd mynedfa newydd i gerddwyr yn cael ei chreu i gornel de-ddwyreiniol y safle, gan ddarparu llwybr diogel i gerdded i'r ysgol sy'n mynd heibio'r mannau chwarae a'r meysydd parcio. Bydd y fynedfa yma'n union oddi ar Highfield. Dyma'r unig fynedfa i ddefnyddwyr yr ysgol, a hynny er mwyn osgoi cerdded trwy'r ystâd ddiwydiannol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Rwy’n falch iawn bod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi rhoi caniatâd cynllunio llawn i ddarparu ysgol newydd o’r radd flaenaf i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Bydd modd i'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau hefyd. Bydd yr ysgol newydd yn llawer gwell o'i chymharu â'r adeiladau presennol. Ar y safle newydd bydd cyfleusterau i'r 21ain Ganrif, gan gynnwys mannau chwarae awyr agored, maes parcio a darpariaeth codi a gollwng disgyblion.
“Dyma’r buddsoddiad diweddaraf mewn cyfleusterau addysg ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'i chynllun Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae’n dod yn sgil cadarnhad diweddar o gyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer adeiladau newydd yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn 2024 a 2025 Mae hefyd yn dangos, er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol y mae pob awdurdod lleol ledled Cymru yn eu hwynebu, ein bod yn dal yn gallu parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau ysgol newydd ar gyfer ein pobl ifainc.
“Roedd cymuned Glynrhedynog wedi dangos ei chefnogaeth lawn i'r adeilad ysgol newydd yn ymgynghoriad y Cyngor y llynedd. Roedd hyn yn allweddol i gymeradwyaeth y Cabinet o'r cynllun. Mae sicrhau caniatâd cynllunio yn garreg filltir bwysig a fydd yn caniatáu i roi trefniadau ar waith i ddechrau gwaith adeiladu ar y safle yn fuan. Nod yr ysgol newydd yw bod yn garbon sero-net wrth weithredu, gan ystyried ein hymrwymiadau o ran newid yn yr hinsawdd.
“Bydd y buddsoddiad yn cynyddu’r cynnig addysg cynradd cyfrwng Cymraeg i’r ardal leol, gyda 270 o leoedd gan gynnwys Cylch Meithrin sy’n cynnig 30 o leoedd. Bydd hyn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r deilliannau sydd wedi'u hamlinellu yn ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ac yn cyfrannu'n lleol tuag at nod ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.”
Wedi ei bostio ar 19/12/2022