Skip to main content

Rhybuddion Tywydd Melyn ar waith y penwythnos yma

yellow warning

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd ar gyfer y penwythnos yma wrth i’r tywydd gaeafol diweddar barhau. Mae disgwyl glaw ac eirlaw nos Wener a bore Sadwrn, ac amodau rhewllyd ddydd Sul.

Mae’r rhybuddion tywydd cyfredol yn cynnwys:

  • Rhybudd melyn am law ac eirlaw, gydag eira dros rai bryniau, yn arwain at berygl o rew (9pm ddydd Gwener, 16 Rhagfyr tan 10.30am ddydd Sadwrn, 17 Rhagfyr).
  • Rhybudd melyn am eira a glaw yn disgyn ar arwynebau rhewllyd, gan arwain at rew (3am tan 2pm ddydd Sul, 18 Rhagfyr).

Bydd y tywydd yn cael ei fonitro’n agos a bydd criwiau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor yn trin prif rwydwaith y fwrdeistref sirol, llwybrau uchel a meysydd parcio i baratoi ar gyfer yr amodau gwael.

Mae'r criwiau hefyd wedi gwirio cyflenwad y biniau graeanu ymlaen llaw mewn lleoliadau ar draws y Fwrdeistref Sirol ac wedi'u hail-lenwi lle roedd angen. Mae staff ychwanegol hefyd wedi'u darparu er mwyn cymryd camau rhagweithiol ac ymateb i unrhyw broblemau posibl.

Mae'r Cyngor yn annog pawb i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma. Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf.

Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch Wasanaeth Brys y Cyngor y Tu Hwnt i Oriau ar 01443 425011.

Nodwch fod penderfyniad wedi’i wneud i ganslo pob gêm chwaraeon/hyfforddiant ar gaeau glaswellt y penwythnos yma (17-18 Rhagfyr). Mae'r rhag fwyaf o'r caeau yma dal wedi rhewi oherwydd y tywydd oer yr wythnos yma, ac felly dydyn nhw ddim yn ddiogel ar gyfer cynnal gemau/hyfforddiant. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r rhybuddion tywydd sydd ar waith ar gyfer y penwythnos yma.
Wedi ei bostio ar 16/12/22