Skip to main content

Glanhau'r A470 i Gefnogi Cymru yn y Chwe Gwlad

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galw ar fodurwyr i fynd i'r afael â sbwriel ar ochr yr heol, gan helpu i sicrhau bod ein hardal yn lân ac yn groesawgar i'r miloedd o ymwelwyr a fydd yn teithio i Gaerdydd y penwythnos yma er mwyn cefnogi Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am lanhau'r A470 rhwng Ffynnon Taf ac Abercynon, sef un o'r heolydd prysuraf yng Nghymru. Dyma hefyd y brif ffordd i mewn i'r Brifddinas.

Bu carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn brysur yn glanhau'r heol ac yn codi sbwriel dros yr wythnosau diwethaf, ac fe lenwodd y sbwriel hwnnw 450 o fagiau. Byddai wedi bod yn hawdd i'r sawl a daflodd y darnau o sbwriel yma i fynd â nhw gartref a'u hailgylchu neu'u rhoi yn y bin.

Mae carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn treulio cannoedd o oriau ar sesiynau glanhau o'r fath, ac mae'n waith peryglus iawn. Hefyd, mae modd i'r garfan achosi aflonyddwch i fodurwyr wrth weithio ar hyd y briffordd brysur yma.

Mae’r heol boblogaidd yma tuag at Gaerdydd yn cael ei defnyddio gan filiynau o gymudwyr, ymwelwyr, cefnogwyr rygbi a thrigolion. Yn aml, dyma’r argraff gyntaf y bydd pobl yn ei chael o'r ardal – a dyma annog pawb i sicrhau mai argraff dda fydd honno.

Mae'r Cyngor yn gwario mwy na £50,000 yn glanhau'r darn 10 milltir yma o'r briffordd bob blwyddyn, a hynny fel bod teithwyr yn gweld Rhondda Cynon Taf ar ei gorau.

Yn ystod y sesiwn glanhau ddiweddaraf, bu 7 aelod staff mewn 1 ysgubwr ffordd mawr, 2 dipiwr ac 1 cerbyd 4x4 yn glanhau mwy na 20 tunnell o falurion o'r rhan yma o'r briffordd. Digwyddodd hyn dros gyfnod o bythefnos, tra bod Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) hefyd yn cyflawni gwaith cynnal a chadw. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Mae sbwriel yn faich hyll a diangen, ac mae modd i ni ei osgoi’n hawdd. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bobl gymryd un cam syml tuag at wneud heolydd yn amgylchedd mwy diogel a dymunol i bawb. Byddai modd gwneud defnydd llawer gwell o'r arian a'r adnoddau staff sy'n cael eu defnyddio i symud y cannoedd o sachau sbwriel yma o'r A470.

"Y cyfan sydd angen i fodurwyr ei wneud yw cadw bag yn eu cerbyd i storio sbwriel, a chael gwared arno mewn modd cyfrifol."

Mae sbwriel ar ymyl yr heol yn hyll ac yn fygythiad i'r amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae modd iddo hefyd rwystro draeniau ac achosi llifogydd. Mae clirio sbwriel yn dargyfeirio adnoddau gwerthfawr y Cyngor oddi wrth wasanaethau hanfodol. Yn ogystal â hynny, mae eitemau sy’n cael eu taflu o gerbydau sy’n symud yn beryglus i ddefnyddwyr eraill yr heol.

Mae Rhondda Cynon Taf yn wynebu problemau sylweddol o ran pobl sy naill ai'n parcio mewn cilfannau ac yn tipio eu gwastraff yn anghyfreithlon, neu'n taflu sbwriel neu fonion sigaréts o'u cerbydau wrth iddyn nhw yrru. Mae hyn yn anghyfreithlon a bydd y rhai sy'n cael eu dal yn cael dirwy o £100 neu ragor. Yn ogystal  â hynny, mae'n bosib bydd rhaid iddyn nhw wynebu achos troseddol yn y pen draw. Mae modd i hyn arwain at filoedd o bunnoedd mewn dirwyon, yn ogystal â chofnod troseddol.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau carfan Gofal y Strydoedd, ffoniwch 01443 425001 neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/gofalystrydoedd.

Wedi ei bostio ar 15/02/22