Skip to main content

Arian wedi'i sicrhau gan Western Power ar gyfer cymorth gwresogi ychwanegol i gymunedau RhCT

Mae Carfan Gwresogi ac Arbed Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn £10,000 gan Gronfa Materion yn y Gymuned Western Power Distribution i roi cymorth ychwanegol i gymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd yr arian yn caniatáu i'r Cyngor ddarparu mesurau inswleiddio ychwanegol, yn ogystal â mynd i'r afael â materion eraill sy'n effeithio ar ddiogelwch a chysur trigolion, megis atal lleithder a gwella drysau allanol. Ynghyd â'r mesurau effeithlonrwydd ynni yma bydd y cyllid yn golygu bod modd hyfforddi staff er mwyn gwella'r cymorth y mae'r Cyngor yn ei gynnig i drigolion Rhondda Cynon Taf ynghylch cyngor effeithlonrwydd ynni.

Bydd y cyllid yn golygu bod modd i'r Cyngor gynorthwyo 20 o drigolion eraill ochr yn ochr â'r grantiau presennol. Bydd y cyllid yma'n canolbwyntio ar drigolion yn ardal Penrhiwceibr ac Ynysyboeth i ddechrau, ond mae modd i unrhyw drigolion Rhondda Cynon Taf wneud cais am gymorth ac rydyn ni'n annog hynny. Bydd dyraniad y cyllid yn dibynnu ar amgylchiadau personol y preswylydd, gyda grantiau'n cael eu dyfarnu yn ôl disgresiwn.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai:

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o lwyddiant cais i Gronfa Materion yn y Gymuned Western Power Distribution i gynyddu’r grantiau a’r cymorth sydd ar gael i drigolion agored i niwed yn y Fwrdeistref Sirol sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd. Bydd y cyllid hefyd yn helpu i wella iechyd a diogelwch trigolion sy'n byw mewn cartrefi oer.

“Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â bylchau yn y cymorth ariannol presennol ar gyfer mesurau ynni sydd eu hangen ar aelwydydd mewn tlodi tanwydd, ynghyd â helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ynni ymhlith trigolion.”

Os ydych chi o'r farn y byddai eich cartref yn elwa o fesurau effeithlonrwydd ynni gwell, e-bostiwch y Garfan Gwresogi ac Arbed: gwresogiacarbed@rctcbc.gov.uk neu gwnewch gais ar-lein yma.

Mae Carfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor hefyd yn cynnal sesiynau cynghori wythnosol AM DDIM i drigolion ar sut i arbed arian ar gostau trydan a gwresogi, gwybodaeth effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â bod wrth law i drafod grantiau a chyllid sydd ar gael i drigolion. Mae'r sesiynau galw heibio am ddim yn:

  • Arts Factory, Glynrhedynog. Bob dydd Llun, 9am-12pm
  • Feel Good Factory, Ynys-boeth. Bob dydd Mercher 10am–2pm
  • Canolfan yr Henoed, Penrhiwceiber. Bob dydd Iau 1pm-3pm
Wedi ei bostio ar 16/02/2022