Skip to main content

Gwella Proses Recriwtio'r Cyngor ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog

Mae'r Cyngor wedi lansio Cynllun Gwarantu Cyfweliad i ddangos ei gefnogaeth barhaus a'i ymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog ac i barchu Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae'r cynllun wedi'i anelu at bawb sy'n gadael y Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer unrhyw swydd wag sydd wedi'i nodi ym mhecyn cyflogaeth y Cyngor. Bydd y fenter yma'n gwarantu cyfweliad ar gyfer y swydd sydd ar gael. Bydd y cynllun yn cryfhau'r berthynas rhwng y Cyngor a chymuned y Lluoedd Arfog.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae cyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliad newydd y Cyngor yn ei gwneud hi’n haws i gymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf oresgyn rhwystrau i gyfleoedd gwaith mewn bywyd sifil ar ôl cyfnod o wasanaeth gweithredol. Mae'r cynllun hefyd yn helpu i leihau'r effeithiau posibl y mae modd i ddiweithdra hirdymor eu cael ar iechyd a lles unigolyn.

“O ganlyniad i hynny, bydd y Cyngor yn elwa o ystod ehangach o ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sydd efallai'n meddu ar nifer fawr o sgiliau trosglwyddadwy.”

Mae pob swydd wag gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf bellach yn nodi ei fod yn croesawu ceisiadau gan gymuned y Lluoedd Arfog.

Er bod Cynllun Gwarantu Cyfweliad y Cyngor yn gwarantu cyfweliad i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol, dydy'r cynllun ddim yn gwarantu cyflogaeth. Bydd gweithdrefnau recriwtio yn sicrhau bod yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd yn cael ei benodi.

Cefnogaeth ar gyfer ein Lluoedd Arfog

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.

Cafodd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ei lansio yn 2014 ac mae’n cydnabod y sefydliadau hynny sy’n addo cefnogi'r Gymuned Amddiffyn, sy'n dangos y gefnogaeth honno, ac sy'n eirioli dros y Gymuned honno. Cyngor Rhondda Cynon Taf yw deiliad balch y Wobr Aur.

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth ar faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cefnogi mwy na 600 o Gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Cyngor hefyd yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth ynglŷn â'r Cyfamod i’w staff, elusennau a sefydliadau allanol. Mae'r Cyngor yn gweithio’n agos gyda phartneriaid y Lluoedd Arfog, awdurdodau cyfagos, elusennau a grwpiau cyn-filwyr.  

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfonwch e-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 09/02/2022