Skip to main content

Canmol Disgyblion am Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd

Ysgol Ty Coch

Mae disgyblion yn Ysgol Tŷ Coch yn dathlu ar ôl ennill her Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn rhan o ymgyrch ymwybyddiaeth y DU gyfan.

Enillodd yr ysgol yn Rhondda Cynon Taf y categori oedran uwchradd trwy greu ffilm ymwybyddiaeth diogelwch ar y rhyngrwyd a ddaliodd sylw’r panel o feirniaid.

Nod Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw herio disgyblion o bob oed i greu rhyngrwyd fwy diogel i bawb ei mwynhau drwy lunio cyfleoedd adloniant rhyngweithiol, meithrin perthnasoedd cefnogol a chymunedau parchus, yn ogystal â sicrhau eu bod nhw'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel ar y we.

Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Tŷ Coch ar y gydnabyddiaeth genedlaethol yma am eu gwaith ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

“Mae eu holl waith caled, creadigrwydd ac ymrwymiad wedi talu ar eu canfed wrth i ni annog holl ddisgyblion Rhondda Cynon Taf i gadw'n ddiogel a bod yn barchus wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd, yn enwedig wrth ryngweithio ag eraill.

“Mae parchu ein gilydd mewn amgylchedd digidol yn bwysig iawn yn y byd sydd ohoni ac mae’n hyfryd gweld ein plant yn ymgysylltu â’r neges yma ac yn dangos eu bod nhw'n deall pam ei bod yn bwysig aros yn ddiogel ar-lein.”

Meddai David Jenkins, Pennaeth Ysgol Tŷ Coch: “Rwy' wrth fy modd bod disgyblion Ysgol Tŷ Coch wedi cael cydnabyddiaeth yn rhan o’r wobr yma. Mae diogelwch ar y rhyngrwyd yn rhan hanfodol o gwricwlwm ein hysgol ac mae’n amlwg bod ein disgyblion yn cydnabod manteision defnyddio’r rhyngrwyd a chadw’n ddiogel. Maen nhw'n datblygu i fod yn unigolion rhyfeddol iach a hyderus.”

Wedi ei bostio ar 25/02/2022