Mae'n bleser gan y Cyngor gyhoeddi bod sioeau byw ar fin dychwelyd i Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr am y tro cyntaf ers pandemig Covid-19.
Mae hoff ddyn doniol Cymru, Owen Money, yn dechrau tymor 2022 gyda'i sioe wedi'i haildrefnu Owen Money's Juke Box Heroes 3 Tour ddydd Sadwrn 5 Mawrth am 7.30pm. Mae pob tocyn ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
Yn dilyn teithiau hynod lwyddiannus yn 2016 a 2018, mae Owen yn ei ôl gyda noson wych o gerddoriaeth a chwerthin a'i fand gwych The Traveling Wrinklies yn ogystal â gwesteion arbennig.
Dyma gyfle i ail-fyw rhai o glasuron y gorffennol sy'n cynnwys The Beach Boys, Aretha Franklin, Etta James, Nina Simone, Neil Diamond a Tina Tuner yn rhan o'r daith llawn atgofion yma.
Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Chymunedau: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn croesawu perfformiadau byw yn ôl i Theatr y Parc a’r Dâr a Theatr y Colisëwm. Rydyn ni wedi gweld eisiau nhw'n fawr.
“Hoffwn i ddiolch i garfan Gwasanaeth Celfyddydau’r Cyngor am bopeth maen nhw wedi’i wneud yn ystod y pandemig. Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gweithio mewn adrannau eraill o’r Cyngor am y ddwy flynedd ddiwethaf yn ein helpu i ymateb i’r argyfwng yma.
“Ond mae’r amser wedi dod i agor ein drysau eto a chroesawu pobl yn ôl i’n theatrau. Mae gyda ni raglen lawn dop o sioeau byw a ffilmiau ar y sgrin fawr. Unwaith eto cawn lenwi ein theatrau â cherddoriaeth, chwerthin, drama a chyffro, gan adfer eu statws yn ganolfannau adloniant yn ein cymunedau.”
MaeThe Ultimate Rock Show, sy'n cynnwys dros ddwy awr o riffs roc enwog gan enwau chwedlonol fel Eric Clapton, Led Zeppelin, Queen a Deep Purple, yn dod i Theatr y Colisëwm ddydd Sadwrn 2 Ebrill am 7.30pm. Dyma sioe arall wedi'i haildrefnu, a bydd yr holl docynnau ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y sioe yma.
Mae'r diddanwr amryddawn Lee Gilbert yn fyw yn Theatr y Parc a'r Dâr ddydd Sul 13 Mawrth am 7pm. Bydd Lee, sy'n dod o Gwm Rhondda, yn dathlu 30 mlynedd yn y byd adloniant yng nghwmni ei fand saith aelod, gyda Bello Duo yn ei gefnogi.
Bydd cynhyrchiad Cymraeg o glasur Willy Russell Shirley Valentine ar lwyfan Theatr y Parc a'r Dâr am un noson yn unig, sef nos Fercher 23 Mawrth am 7pm. Mae'r gomedi boblogaidd yn seiliedig ar wyliau llawn hwyl un fenyw i Wlad Groeg – gwyliau a fydd yn newid ei bywyd am byth.
Yn ogystal â'r holl gynyrchiadau byw yn y ddwy theatr, bydd rhaglen orlawn o ffilmiau at ddant pawb.
I gael rhagor o fanylion am yr holl sioeau sydd i ddod yn Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr, ffoniwch Swyddfa Docynnau Theatrau RhCT ar 03000 040 444 neu ewch i https://rct-theatres.co.uk/cy/
Wedi ei bostio ar 25/02/22