Skip to main content

Gwaith adfer yn dilyn Storm Eunice

Yn dilyn Storm Eunice a'r rhybuddion tywydd garw, mae'r Cyngor wrthi'n delio â phroblemau  ar draws Rhondda Cynon Taf yn sgil y tywydd garw.

Bydd staff yn gweithio dros y penwythnos gan sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol unwaith eto'n ddiogel i'n trigolion. Mae hynny'n golygu:

  • Bydd holl wasanaethau'r Cyngor sydd ddim yn rhai hanfodol yn ailddechrau
  • Bydd pob ysgol yn ail-agor ddydd Llun, 21 Chwefror
  • Bydd yr holl gasgliadau ymyl y ffordd yn ailddechrau gydag amserlen ddiwygiedig
  • Bydd pob Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn ail-agor
  • Bydd pob canolfan oriau dydd ac adeilad cymunedol yn ail-agor
  • Bydd pob canolfan hamdden yn ail-agor ddydd Sadwrn, 19 Chwefror
  • Bydd pob llyfrgell yn ail-agor
  • Bydd pob toiled cyhoeddus yn ail-agor
  • Bydd pob parc yn ail-agor
  • Bydd yr holl ffyrdd mynydd yn ail-agor nos Wener (7pm)

Bydd rhybudd tywydd melyn gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer gwyntoedd cryfion mewn grym ddydd Sadwrn, Chwefror 19, rhwng 6am a 6pm. Os oes gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif argyfwng tu allan i oriau y Cyngor ar 01443 425011.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Hoffwn i ddiolch i drigolion Rhondda Cynon Taf, a busnesau lleol, am eu hamynedd a’u dealltwriaeth ar yr adeg hon. Hoffwn i hefyd ddiolch i staff y Cyngor a ymatebodd i’r sefyllfa frys.

“Daeth Storm Eunice â rhai o wyntoedd mwyaf difrifol y 30 mlynedd diwethaf i’n Bwrdeistref Sirol, gyda gwyntoedd o bron i 90mya wedi’u cofnodi dros y Bwlch. Mae diogelwch y cyhoedd bob amser yn hollbwysig i ni, a gwnaeth y Cyngor y penderfyniad cynnar i atal pob gwasanaeth nad oedd yn hanfodol.

“Er bod rhybudd tywydd Melyn mewn grym dros y penwythnos am fwy o wyntoedd cryfion, dydyn ni ddim yn disgwyl dim byd tebyg i Storm Eunice. Ond rwy’n annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ar yr adeg hon.”

Wedi ei bostio ar 18/02/2022