Skip to main content

Newidiadau i Wasanaethau'r Cyngor - Storm Eunice

 Dydd Gwener, Chwefror 18 (12:15pm)

O ganlyniad i'r rhybudd tywydd COCH ac AMBR fydd yn effeithio ar ardal Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener, 18 Chwefror, ac er diogelwch y cyhoedd, bydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu heffeithio:

  • Bydd pob gwasanaeth sydd ddim yn wasanaeth hanfodol yn dod i ben dros dro
  • Bydd pob ysgol ar gau
  • Bydd casgliadau wrth ymyl y ffordd yn dod i ben dros dro
  • Bydd ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar gau
  • Bydd pob canolfan oriau dydd ac adeilad cymunedol ar gau
  • Bydd pob canolfan hamdden ar gau
  • Bydd pob llyfrgell ar gau
  • Bydd pob toiled cyhoeddus ar gau
  • Bydd pob parc ac atyniad ar gau
  • Bydd ffyrdd y mynydd a llwybrau uchel ar gau i bawb ar wahân i gerbydau'r gwasanaethau brys a gwasanaethau hanfodol.
  • I gael rhagor o wybodaeth am angladdau, cysylltwch â'ch Trefnydd Angladdau

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Nid yw'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi Rhybudd Tywydd Coch yn aml, rydw i'n annog y cyhoedd i wrando ar y rhybudd yma, er eu diogelwch nhw eu hunain a diogelwch pobl eraill.

"Arhoswch gartref am gyfnod y rhybudd tywydd os oes modd i chi wneud hynny, peidiwch â gadael y tŷ oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol, er mwyn diogelu'ch hun ac osgoi rhoi pwysau ar y Gwasanaethau Brys.

“Nodwch: mae'r rhybudd tywydd yma'n nodi'n glir y gallai'r tywydd yma beryglu bywydau. O ganlyniad i hynny, mae'r Cyngor wedi rhoi ei gynlluniau brys ar waith a bydd yn parhau i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd.”

Mae'r Cyngor yn annog trigolion a busnesau lleol i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma. Os oes gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif ffôn mewn argyfwng tu allan i oriau swyddfa'r Cyngor ar 01443 425011.

Bydd y dudalen we hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd garw.

Wedi ei bostio ar 17/02/22