Skip to main content

Cynllun Cymoni Strydoedd RhCT

Bydd Cynllun Cymoni Strydoedd RhCT yn ymweld â stryd yn eich ardal chi, diolch i garfan Gofal y Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae Cynllun Cymoni Strydoedd RhCT yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i gadw ein strydoedd a'n mannau agored yn lân ac yn wyrdd er mwyn i bawb eu mwynhau.

Bydd carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn ymweld ag ardal Glynrhedynog cyn bo hir i lanhau, cael gwared ar sbwriel, achosion o dipio'n anghyfreithlon, baw cŵn, glanhau graffiti, cael gwared ar gwm cnoi, chwyn a chynnal mannau gwyrdd. Bydd peiriannau ysgubo hefyd yno i gael gwared ar ddail marw a malurion.

Cyfres o sesiynau sy'n ceisio mynd i'r afael â materion nad oes modd ymdrin â nhw yn rhan o'r sesiynau glanhau cyffredinol sy'n cael eu cynnal bob dydd ledled y Fwrdeistref Sirol yw'r Cynllun Cymoni Strydoedd.

Cafodd y Cynllun Cymoni Strydoedd ei lansio dros ddegawd yn ôl yn rhan o ymgyrch ehangach i wneud Rhondda Cynon Taf yn lle glanach a mwy taclus i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Mae'r garfan yn ymweld â phob ardal ledled y Fwrdeistref Sirol drwy gydol y flwyddyn.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Mae llawer o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod yn lle glân a gwyrdd i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

“Mae modd i bawb weld y gwaith gwych mae ein carfan Gofal y Strydoedd yn ei wneud i sicrhau bod ein Bwrdeistref Sirol yn lle glanach i fyw.

“Rydyn ni'n falch o’n cymunedau a’n mannau agored ac yn gweithio’n rhagweithiol gyda thrigolion i sicrhau eu bod nhw hefyd yn ymfalchïo yn yr ardal lle maen nhw'n byw ac yn cymryd perchnogaeth ohono.

“Fodd bynnag, rhaid i ni beidio oedi a rhaid i ni barhau i ymdrechu i wella ein Bwrdeistref Sirol. Mae sbwriel a gwastraff yn mynd i barhau i fod yn broblem ac mae’r carfanau'n gweithio’n ddiflino i gadw ein Bwrdeistref Sirol yn lân ac yn wyrdd, ond mae’n bwysig bod trigolion yn gweithredu i helpu yn y frwydr yn erbyn gwastraff drwy wneud yn siŵr eu bod yn cael gwared ar eu gwastraff mewn modd cyfrifol.”

“Rydyn ni'n gweithio gyda thrigolion i addysgu a chodi ymwybyddiaeth fel bod modd iddyn nhw gyfrannu at amddiffyn Rhondda Cynon Taf.

Bydd Cynllun Cymoni Strydoedd RhCT yn parhau ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod y misoedd nesaf.

Wedi ei bostio ar 15/02/2022