Skip to main content

Miloedd wedi'u Buddsoddi i Fynd i'r Afael â Baw Cŵn yn RhCT

Dog bin 1 (3)

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn buddsoddi £40,000 pellach mewn biniau coch gwastraff cŵn ac yn gwella argaeledd bagiau ‘cŵn’ mewn ymgais i helpu perchnogion cŵn anghyfrifol.

Mae'r mwyafrif o berchnogion cŵn ledled y Fwrdeistref Sirol yn gyfrifol, ond mae rhai yn gadael y baw ar eu hôl i eraill sathru ynddo - neu'n waeth.

Mae dros 1,500 o finiau coch gwastraff cŵn ar draws y Fwrdeistref Sirol i'w cael mewn lleoliadau cerdded cŵn cyffredin a mannau problemus. Bydd y buddsoddiad diweddaraf yn golygu bod mwy o finiau'n cael eu gosod neu eu hadnewyddu lle bo angen ac ychwanegu peiriannau dosbarthu bagiau 'cŵn' mewn mannau allweddol - does dim esgus i beidio â chodi'r baw, ei roi mewn bag a'i roi yn y bin! Mae'r arian yma'n ychwanegol at y gyllideb a neilltuwyd ar gyfer cynnal a chadw'r gwasanaeth.

Mae'r buddsoddiad yma'n cefnogi'r ymgyrch ddiweddaraf sy'n  gobeithio gwella ymwybyddiaeth a gwneud i berchnogion cŵn anghyfrifol gymryd sylw. Mae DWY neges syml wedi gosod mewn lleoliadau allweddol ar draws Rhondda Cynon Taf.

Mae'r negeseuon yn syml: 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAE'. Mae'r rhain yn rhan o'r ymgyrch gyffredinol i fynd i'r afael â'r rhai sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Hydref 2017, roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, pan roddodd Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Gan fod y gorchymyn wedi bod mor llwyddiannus, cafodd ei ymestyn ym mis Tachwedd 2020 i barhau i fynd i’r afael â’r mater annymunol yma.

Mae'r mesurau'n cynnwys y canlynol:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
  • Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.

Un o'r pryderon allweddol yr aeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i'r afael ag ef oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd, ond gallai hefyd achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau.

Mae’r garfan Gorfodi wedi cynyddu eu presenoldeb mewn ardaloedd problemus ar draws y Fwrdeistref Sirol ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi rhoi dros 1,030 o Hysbysiadau Cosb Penodedig (HCB) i’r rhai sydd wedi’u dal yn gollwng sbwriel, yn tipio’n anghyfreithlon, yn torri’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ac yn methu â rheoli eu gwastraff yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio ar ôl baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma.

“Ar ôl derbyn cwynion gan drigolion lleol a gweld y broblem drosof fy hun mewn rhai ardaloedd, mae’r garfan Gorfodi yn cynyddu eu presenoldeb ymhellach i fynd i’r afael â’r mater ar y strydoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn ymgais i ddal y rhai sy’n gyfrifol am y llanast ffiaidd.

“Rydyn ni'n ffodus iawn i gael carfan Gofal y Strydoedd mor rhagweithiol a brwdfrydig sy’n parhau’n ymroddedig i ddefnyddio cynlluniau a mentrau arloesol i frwydro yn erbyn y malltodau yma ar ein trefi a’n pentrefi.

“Y gobaith yw y bydd negeseuon diweddaraf yr ymgyrch yn fodd i’ch atgoffa i lanhau ar ôl eich ci – rhowch y baw mewn bag a’i roi yn y bin, a pheidio â gadael i’ch cŵn gerdded ar gaeau.

“Yn 2020 estynnwyd rheolau GDMC/PSPO oherwydd eu llwyddiant a byddwn ni'n parhau i ddefnyddio’r gorchymyn yma i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol – gan gynnwys ar feysydd fel ardaloedd chwarae i blant a chaeau wedi’u marcio lle mae preswylwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae staff Gofal y Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi casglu 71 tunnell o faw ci – sy'n cyfateb i 17 o lorïau sbwriel yn llawn baw ci!

 Daeth y rhan fwyaf o’r llanast hwnnw o’r biniau baw cŵn sy’n cael eu gosod mewn cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol gan y Cyngor er mwyn mynd i'r afael â’r broblem.

Ond cafodd llawer gormod ohono ei godi o'r strydoedd, palmentydd, mannau agored, canol trefi a hyd yn oed parciau, sy’n ffiaidd, yn beryglus ac yn anghyfreithlon! Mae glanhau ar ôl perchnogion cŵn anghyfrifol yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd ac amser di-ri i'r Cyngor bob blwyddyn!

Mae'r Cyngor hefyd yn derbyn adroddiadau bod perchnogion cŵn yn gadael eu bagiau baw cŵn yn hongian ar finiau, gan wneud iddyn nhw ymddangos yn llawn. Mae hyn am fod y perchnogion ddim eisiau cyffwrdd â'r dolenni bin gwastraff cŵn - lle bo hyn yn wir rydyn ni'n gofyn eich bod, lle bo hynny'n bosibl, yn mynd â'ch bagiau adref ac yn eu gwaredu yn eich gwastraff bag du / bin olwynion eich hun.   Cofiwch olchi eich dwylo wedi i chi wneud hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baeddu cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf - yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx  

Wedi ei bostio ar 14/02/2022