Mae teyrngedau'n cael eu talu i gyn Brif Weithredwr Cyngor Rhondda Cynon Taf, Steve Merritt, sydd wedi marw wedi gwaeledd.
Ymddeolodd Mr Merritt, a aned yng Nghwm Rhondda, ym mis Hydref 2015. Ar y pryd, diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan, iddo am ei “wasanaeth rhagorol a’i ymrwymiad gwirioneddol a chadarn.”
Bu munud o dawelwch er cof am Steve Merritt yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher, 9 Chwefror.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Roedd Mr Merritt, yntau'n Brif Weithredwr, yn arbennig yn ei swydd, a dylai fod yn hynod o falch o’i hanes ym myd llywodraeth leol a’r cyfraniad enfawr a wnaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roedd ei holl gydweithwyr yn ei barchu a bu’n meithrin llawer o’r unigolion sydd bellach â rolau arweiniol yn y Cyngor.
“Roedd e'n ŵr bonheddig ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant i’w deulu a’i ffrindiau ar yr adeg hon, yn ogystal â’i gyn-gydweithwyr a fu’n gweithio gydag ef am gymaint o flynyddoedd ac sydd ag atgofion hyfryd ohono.”
Dechreuodd Mr Merritt yn ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth 2014 yn dilyn ymddeoliad Keith Griffiths. Cyn hynny, roedd Mr Merritt yn Ddirprwy Brif Weithredwr ac yn Gyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor am fwy na 10 mlynedd.
Ganed Mr Merritt yng Nghwm Rhondda, a dechreuodd ei yrfa ym myd llywodraeth leol yn Nhŷ Bronwydd, y Porth, ar Awst 6, 1979, yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Rhondda.
Wedi ei bostio ar 14/02/22