Skip to main content

Hoffech chi ddod yn Gynghorydd?

Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn Gynghorydd? Oes diddordeb gyda chi mewn cynrychioli eich cymuned a'ch ardal leol fel aelod etholedig?

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal dwy sesiwn  'Dod yn Gynghorydd' wedi'u hanelu at ddarpar ymgeiswyr neu unrhyw un sydd eisoes yn chwarae rhan weithredol yn ei gymuned/ei chymuned ac sy'n chwilio am her newydd. Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb ymuno â'r sesiwn rithwir ar-lein ddydd Mercher, 2 Mawrth (5pm) neu ddod i Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Cwm Clydach, ddydd Iau, 3 Mawrth (2pm).

I ddod yn ymgeisydd, rhaid i chi fod dros 18 oed, ar y gofrestr etholiadol, ac wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yn y Fwrdeistref Sirol am o leiaf y 12 mis diwethaf. 

Dywedodd Mr Christian Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu:

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i annog ystod mor amrywiol â phosibl o bobl i sefyll yn etholiadau llywodraeth leol mis Mai.

“Yn ogystal â’r wybodaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi gan y Cyngor a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae’r 2 sesiwn anffurfiol yma'n ceisio rhoi’r cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb, neu sy’n ystyried ymgeisio i ddod yn Gynghorydd, i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a'r cymorth sydd ar gael gan y Cyngor i gefnogi ymgeiswyr newydd a Chynghorwyr newydd eu hethol.

“Nod yr achlysuron yw dangos sut, beth bynnag fo’ch cefndir neu amgylchiadau personol, mae hyblygrwydd y rôl a’r gefnogaeth sydd ar gael i gefnogi aelodau newydd eu hethol, yn gwneud sefyll i fod yn Gynghorydd yn gyfle gwerth chweil i unrhyw un sy’n poeni’n angerddol am eu hardal leol.”

Does dim angen i chi fod yn rhan o blaid wleidyddol i sefyll mewn etholiad yn eich cymuned.

Bydd manylion am y broses enwebu er mwyn sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau yma hefyd yn cael eu darparu yn ystod y sesiynau.

Rhagor o wybodaeth am ddod yn Gynghorydd 

I gofrestru i fod yn rhan o sesiynau gwybodaeth 'Dod yn Gynghorydd' Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch: gwasanaethaucynghorwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 15/02/2022