Skip to main content

Enwi disgyblion ifainc o RCT yn feirniaid Blue Peter

Blue peter book awards 2022

Bydd disgyblion ifainc o Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru yn ymddangos ar y rhaglen deledu sydd wedi rhedeg hiraf yn y byd, wedi iddyn nhw gymryd rhan mewn her llythrennedd lwyddiannus ledled y DU.

Mae'r plant wedi mwynhau bod yn rhan o Her Ddarllen Blue Peter y BBC, sy'n annog miloedd o blant i ddarllen llyfr, ac maen nhw bellach yn feirniaid swyddogol Gwobrau Llyfrau blynyddol Blue Peter.

Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru ar gael eich dewis i fod yn feirniaid gwobrau llyfrau mor fawreddog.

“Mae Blue Peter yn gyfres deledu rydyn ni i gyd yn ei chofio o'n plentyndod, felly mae bod yn rhan ohoni yn arbennig iawn ac yn rhywbeth y bydd y disgyblion ifainc yn ei gofio am weddill eu hoes.”

Mae Gwobrau Llyfrau Blue Peter 2022 yn dathlu awduron anhygoel, darlunwyr llawn dychymyg a'r llyfrau gorau i blant sydd wedi'u cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dyma'r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Llyfr Gorau gyda Ffeithiau: 24 Hours in the Stone Age, gan Lan Cook; Good News, gan Rashmi Sirdeshpande; Invented by Animals, gan Christiane Dorio. Yn y categori Stori Orau: Danny Chung Does Not Do Maths, gan Maisie Chan; The Boy Who Made Everyone Laugh, gan Helen Rutter; The Last Bear, gan Hannah Gold.

Bydd enillwyr Gwobrau Llyfrau Blue Peter 2022 yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth.

Gwobrau Llyfrau Blue Peter 2022

Meddai Rhian Shellard, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru:

“Mae'n gymaint o anrhydedd a braint i'n disgyblion ifainc fod ar banel beirniaid Gwobrau Llyfrau Blue Peter.

“Mae Blue Peter yn rhaglen deledu eiconig i bobl ifainc ac mae wedi bod yn eiconig ers iddi ddechrau yn 1958. Rydyn ni wrth ein boddau ac yn llawn cyffro i gael gweithio gyda'r cyflwynwyr a'r garfan gynhyrchu ac rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.”

Darlledwyd Blue Peter am y tro cyntaf ym mis Hydref 1958, a'r cyflwynwyr oedd Christopher Trace a Leila Williams. Mae 40 o gyflwynwyr wedi bod yn rhan o'r rhaglen hyd yma, a'r cyflwynwyr presennol yw Richie Driss, Mwaksy Mudenda ac Adam Beales.

Wedi ei bostio ar 10/02/22