Bydd gwaith yn dechrau i atgyweirio ac ailadeiladu rhannau o’r wal, sef glannau’r cwrs dŵr cyffredin, rhwng Stryd Allen a Stryd Copley yn Aberpennar – sydd wedi dioddef difrod dros sawl cyfnod o law trwm.
Mae'r Cyngor wedi penodi EDS Marine & Civil Engineering Contractors i gynnal y gwaith, a fydd yn para tua 10 wythnos yn dechrau ddydd Mercher, 19 Ionawr. Mae dŵr yn y rhan o’r cwrs dŵr sydd wedi’i difrodi yn llifo trwy gyfres o sianeli agored a chwlferi, cyn ymuno ag Afon Cynon.
Mae’r waliau ar bob ochr y cwrs dŵr wedi’u hadeiladu ar sawl ffurf wahanol. Bydd y cynllun sydd ar ddod yn cyflawni gwaith adfer mewn sawl lleoliad, gan gynnwys ailadeiladu sianel goncrit lle bydd angen.
Bydd angen i gontractwr y Cyngor gau rhai ffyrdd lleol i gyflawni'r cynllun, ond does dim disgwyl i'r gwaith rheoli traffig a gwyriadau achosi llawer o aflonyddwch. Bydd mynediad i gerddwyr a cherbydau i garejis trwy gydol y gwaith, a bydd arwyddion clir yn dangos mannau'r gwaith.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a bwriad y contractwr yw gwneud cyn lleied o sŵn ac aflonyddwch cyffredinol â phosibl. Bydd trigolion yn derbyn llythyr gan y contractwr i gyflwyno eu hunain a'r gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bydd y Cyngor yn dechrau gwaith i gyflawni cynllun atgyweirio sylweddol yn y cwrs dŵr ger Stryd Allen a Stryd Copley cyn bo hir. Mae sawl rhan o’r wal wedi cael eu difrodi yn ystod y stormydd diweddar, a bydd gwaith dros y 10 wythnos nesaf yn cynnwys gwaith adfer ac ailadeiladu lle bydd angen.
“Roedd Aberpennar yn un o’r ardaloedd a gafodd ei tharo waethaf gan Storm Dennis, gan arwain at lifogydd a difrodi seilwaith mewn sawl lleoliad. Mae cynlluniau atgyweirio wedi’u targedu wedi cael eu cwblhau ers hynny – gan gynnwys uwchraddio rhwyll cwlfert ac atgyweirio sianel yr afon yn Nheras Campbell o fis Tachwedd 2020, cynllun lliniaru llifogydd yn Nheras Granville ac atgyweirio wal gynnal yn Stryd Allen yn 2021, a thwll archwilio newydd yn Nheras Campbell yn ystod yr haf y llynedd.
“Bydd y cynllun diweddaraf yn dechrau ddydd Mercher, a bydd contractwr penodedig y Cyngor yn ysgrifennu at drigolion i egluro’r gwaith ymhellach. Bydd angen cau ffyrdd lleol, ond mae'r cynllun wedi'i ddylunio i wneud cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i drigolion. Hoffwn i ddiolch i’r gymuned am ei chydweithrediad dros yr wythnosau nesaf wrth i ni gyflawni’r atgyweiriadau lleol pwysig yma.”
Wedi ei bostio ar 17/01/2022