Mae crocodeil 120 oed wedi cael ei arddangos mewn ysgol gynradd yng Nghwm Rhondda i bawb ei fwynhau, a hynny’n dilyn ei gadw’n ofalus iawn ar ôl dod o hyd i’r corff o dan lawr ystafell ddosbarth.
Cyrhaeddodd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt, Pentre, yr ysgol ddydd Mercher i weld y crocodeil dŵr hallt enfawr a gafodd ei ddarganfod gan weithwyr ym mis Mehefin 2019 wrth gyflawni cyfres o welliannau i’r ysgol. Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda Pure Conservation, cwmni o Gymru sydd ag arbenigedd ym maes cadwraeth ar gyfer casgliadau treftadaeth, i helpu i adfer y crocodeil yn ddiogel.
Doedd dim gwybodaeth yn cyd-fynd â darganfyddiad y gweithwyr, ond mae stori am grocodeil yn gysylltiedig â'r ysgol wedi'i hadrodd o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae'r chwedl yn disgrifio person lleol a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn dod â chorff crocodeil yn ôl fel cofrodd i'r ysgol. Y gred yw y cafodd y crocodeil ei arddangos, a'i guddio o dan y llawr i'w ddiogelu yn ystod cyfnodau diweddarach o wrthdaro. Mae archwiliad o esgyrn y crocodeil gan Pure Conservation yn profi ei fod yn dyddio’n ôl i gyfnod cyn y 1900au.
Cyflawnodd Pure Conservation ei waith rhwng mis Medi 2019 a Rhagfyr 2021, diolch i waith ymroddedig y gweithiwr cadwraeth, Doctor Victoria Purewal, a’r artist Annette Marie Townsend, sy’n arbenigo mewn Hanes Natur.
Roedd y crocodeil wedi dioddef difrod sylweddol ar ôl bod yno, heb unrhyw beth i'w ddiogelu ers, o bosibl, 100 mlynedd. Roedd ei ochr isaf gyfan ar goll, ynghyd â'i draed a gwaelod ei gynffon, tra bod ei ddannedd wedi cwympo allan a'i gyflwr cyffredinol yn wael iawn. Cafodd y corff cyfan ei rewi i gael gwared ar blâu a chynhaliwyd profion deunyddiau peryglus cyn i'r crocodeil gael ei lanhau.
Mae'r broses wedi cynnwys glanhau corff cyfan y crocodeil yn ofalus iawn, gan gynnwys darnau ar wahân i gael gwared ar faw pryfed, gweoedd pryfed cop a phridd.
Glanhawyd yr esgyrn yn rhan o broses araf gan gymryd sawl ymgais, a chafodd y dannedd rhydd eu rhoi’n ôl. Roedd hyn yn arbennig o anodd gan fod y dannedd wedi torri ac roedd rhai ar goll. Roedd hefyd enghreifftiau o hen ddannedd a dannedd newydd gwreiddiol - gan fod crocodeilod yn tyfu dannedd newydd yn gyson.
Cafodd y corff ei frwsio â brwsh meddal a'i lanhau i gael gwared ar haen drwchus o bridd a gweoedd pryfed cop. Roedd cennau'r crocodeil yn rhydd, yn frau ac yn anodd iawn eu hailosod. Wedi'u categoreiddio yn ôl maint a lliw, cawson nhw eu hailosod ar rannau o'r corff. Roedd angen mowld cynnal i ddiffinio siâp corff cyffredinol y crocodeil.
Cafodd y crocodeil a'r mowld eu cwblhau cyn y Nadolig, a chawson nhw eu harddangos yn yr ysgol nos Fawrth, 11 Ionawr. Mae'n cael ei arddangos gyda blwch â sawl deunydd rhydd a thri asgwrn nad oedd modd eu defnyddio o fewn prif gorff y crocodeil.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae stori'r crocodeil yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt yn gwbl anhygoel – dyna'r peth olaf roedd gweithwyr yn disgwyl ei ddarganfod o dan ystafell ddosbarth! Rwy'n falch iawn bod y gwaith cadwraeth bellach wedi'i gwblhau, a bod y crocodeil chwedlonol rydyn ni wedi clywed ei fod yn gysylltiedig â'r ysgol bellach yn cael ei arddangos.
“Hoffwn ddiolch i Pure Conservation am eu gwaith ymroddedig yn adfer y crocodeil, ac am ei wneud yn ddiogel i’r ysgol ei gadw. Mae dadansoddiad trylwyr y cwmni’n dyddio'r crocodeil yn ôl i'r 19eg Ganrif – ac mae’n bosibl nad oes neb wedi cyffwrdd ag ef ers hyd at ganrif, a hynny o ystyried ei gyflwr pan gafodd ei ddarganfod yn 2019! Hoffwn ddiolch i Doctor Victoria Purewal ac Annette Marie Townsend am eu hymroddiad ac am weithio’n agos gyda'r Cyngor.
“Roedd hi’n wych gweld wynebau llawn cyffro’r disgyblion wrth weld y crocodeil. Rwy’n siŵr y daw’n rhan annwyl o’r ysgol yn y dyfodol – gan gynrychioli darn unigryw, go iawn o hanes lleol i ddisgyblion a staff ei fwynhau am genedlaethau i ddod.”
Wedi ei bostio ar 14/01/2022