Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi tri Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 arall yn dilyn Storm Dennis. Mae'r adroddiadau'n canolbwyntio ar ymchwilio i'r llifogydd a ddigwyddodd yn Nhrefforest, Glyn-taf a'r Ddraenen Wen, a Ffynnon Taf yn y drefn honno.
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adran 19) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf, roi adroddiad ffeithiol o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod digwyddiadau llifogydd difrifol. Rhaid iddo nodi'r Awdurdodau Rheoli Risg (RMAs), a rhoi gwybod am y swyddogaethau y mae pob un wedi'u harfer hyd yma a pha swyddogaethau y maen nhw'n bwriadu eu harfer.
Yn dilyn ei ymchwiliad i 28 lleoliad a effeithiwyd gan Storm Dennis rhwng 15 ac 16 Chwefror, 2020, bydd y Cyngor yn llunio cyfanswm o 19 adroddiad. Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi Adroddiad Trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf (Gorffennaf 2021), yn ogystal ag adroddiadau Adran 19 pellach sy'n canolbwyntio ar gymunedau Pentre (Gorffennaf 2021), Cilfynydd (Medi 2021) a Threherbert (Tachwedd 2021).
Mae'r adroddiadau diweddaraf - a gyhoeddwyd ar wahân ddydd Mawrth, 25 Ionawr – yn canolbwyntio ar gymunedau Trefforest, Glyn-taf a'r Ddraenen Wen, a Ffynnon Taf. Cafodd pob adroddiad ei lywio gan yr arolygiadau a gafodd eu cynnal gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd RhCT yn ystod y dyddiau ar ôl Storm Dennis, yn ogystal â gwybodaeth gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd RhCT, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru ac adroddiadau technegol wedi'u harwain gan ymgynghorwyr.
Mae modd dod o hyd i'r adroddiadau llawn yma
Trefforest (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 12)
Roedd Storm Dennis wedi arwain at lifogydd mewn 50 eiddo yn yr ardal, gan gynnwys 43 o gartrefi, ynghyd â llifogydd sylweddol ar y priffyrdd. Mae'r adroddiad yn nodi mai prif ffynhonnell y llifogydd yn Nhrefforest oedd yr Afon Taf, a oedd wedi gorlifo yn dilyn glaw trwm a pharhaus. Yn ôl mesurydd lefel afon CNC, roedd yr afon bron i bedair gwaith yn uwch nag y byddai fel arfer, gan gyrraedd uchafbwynt o 5.32 metr.
Mae mapiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod yr eiddo a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd wedi'u nodi fel eiddo risg ganolig ac isel o ran llifogydd o'r afon. Roedd yr amddiffynfeydd arferol yn eu lle ond fe'u trechwyd yn ystod Storm Dennis. Nododd yr ymchwiliad hefyd fod dŵr wyneb ar y briffordd wedi cyfrannu at y llifogydd ac wedi gwaethygu llifogydd afonol presennol.
Glyn-taf a'r Ddraenen Wen (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 14)
Roedd cyfanswm o 27 eiddo (gan gynnwys 23 o gartrefi) wedi'u heffeithio gan y llifogydd, yn ogystal â llifogydd sylweddol ar y priffyrdd. Prif ffynhonnell y llifogydd yn ardal Glyn-taf a’r Ddraenen Wen oedd yr Afon Taf, a oedd wedi gorlifo mewn sawl man ar hyd ei hargloddiau dwyreiniol a gorllewinol, a hynny'n dilyn glaw trwm a pharhaus. Yn ôl mesurydd CNC, roedd lefel yr afon bron i bedair gwaith yn uwch na'r arfer, gan gyrraedd uchafbwynt o 5.32 metr hefyd.
Mae mapiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod yr eiddo a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd wedi'u nodi fel eiddo risg uchel o ran llifogydd o brif afonydd, tra nad oes amddiffynfeydd rhag llifogydd ffurfiol ar waith. Nododd ymchwiliadau hefyd fod dŵr wyneb ar y briffordd wedi cyfrannu at y llifogydd, gan fod y seilwaith draenio wedi'i orlwytho. Cafodd twll archwilio ar Heol Caerdydd, sy'n gysylltiedig â rhwydwaith ceuffosydd Rhodfa Ilan, ei orlwytho hefyd.
Ffynnon Taf (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 17)
Cafodd cyfanswm o 36 eiddo (gan gynnwys 25 o gartrefi) eu heffeithio gan y llifogydd yn ardal Ffynnon Taf, yn ogystal â llifogydd sylweddol ar y priffyrdd ledled yr ardal. Mae’r adroddiad yn nodi mai prif ffynhonnell y llifogydd yn Ffynnon Taf oedd yr Afon Taf, a oedd wedi gorlifo yn dilyn glaw parhaus a thrwm. Yn ôl mesurydd CNC, roedd lefel yr afon dros bedair gwaith yn uwch na'r arfer, gan gyrraedd uchafbwynt o 5.49 metr.
Mae mapiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod yr eiddo a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd wedi'u nodi fel eiddo risg isel o ran llifogydd o brif afonydd, a bod amddiffynfeydd ar hyd yr arglawdd dwyreiniol. Fodd bynnag, nodwyd nad oes amddiffynfa ffurfiol ar hyd rhan o lannau'r afon tua'r gogledd. Mae'r wybodaeth yma, ynghyd â thystiolaeth gan drigolion, yn awgrymu bod yr afon wedi gorlifo yn y lleoliad yma yn yr achos cyntaf - gan ganiatáu i'r llifddwr fynd y tu ôl i'r amddiffynfeydd ger Heol Caerdydd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu bod dŵr wyneb yn cronni ar y briffordd hefyd wedi achosi llifogydd ac wedi gwaethygu llifogydd afonol yn yr ardal.
Awdurdodau Rheoli Risg a'u swyddogaethau
Yn achos pob un o’r tair ardal, yr Awdurdod Rheoli Risg perthnasol mewn perthynas â rheoli llifogydd o'r prif afonydd yw Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae pob adroddiad ar wahân yn nodi bod CNC wedi cynnal dadansoddiad ymchwiliol er mwyn deall mecanwaith llifogydd. Mae hefyd wedi comisiynu prosiect modelu i asesu hyfywedd yr opsiynau o ran rheoli perygl llifogydd, ac wedi datblygu argymhellion i fynd i’r afael â meysydd gwella – gan gynnwys cyflawniad Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd CNC a’i ymateb wrth reoli digwyddiadau.
Y Cyngor yw'r Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd dŵr wyneb yn y tri lleoliad. Mae pob adroddiad yn trafod sut mae'r Cyngor wedi cynnal gwaith arolygu, ffrydio a glanhau sylweddol mewn perthynas â'r seilwaith ac wedi arwain ar waith datblygu Ystafell Reoli Ganolog i ddarparu ymateb cynhwysfawr yn ystod digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Mae'r Cyngor wedi arfer ei bwerau i ymgysylltu â CNC a Dŵr Cymru mewn perthynas â'u cyfrifoldebau fel Awdurdodau Rheoli Risg, ac wedi gweithio gyda CNC i ehangu’r Cynllun Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo, gan gynnig rhwystrau y gellir eu defnyddio mewn eiddo risg uchel.
Mae pob adroddiad yn nodi ei bod hi'n annhebygol y byddai modd atal llifogydd o ddigwyddiadau sy'n debyg i Storm Dennis yn gyfan gwbl, a bod yr Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni'u swyddogaethau mewn modd boddhaol wrth ymateb i'r llifogydd. Fodd bynnag, mae pob Awdurdod Rheoli Risg wedi cynnig mesurau pellach i wella'i barodrwydd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: O ganlyniad i gyhoeddi tri Adroddiad 19 arall mewn perthynas â Storm Dennis, mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau'r dasg yma ar gyfer chwe ardal - yn dilyn cyhoeddi adroddiadau Pentre, Cilfynydd a Threherbert y llynedd. Mae'r rhain yn adroddiadau manwl, hygyrch y mae modd eu gweld ar wefan y Cyngor.
“Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud hi'n ofynnol i’r Cyngor, sef yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ymchwilio i’r llifogydd a nodi'r awdurdodau sy’n gyfrifol am reoli’r perygl. Mae'r tri adroddiad a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn ymwneud ag ardaloedd Trefforest, y Ddraenen Wen a Glyn-taf, a Ffynnon Taf yn y drefn honno. Ym mhob un o'r ardaloedd yma, CNC yw'r Awdurdod Rheoli Risg mewn perthynas â llifogydd o brif afonydd, a'r Cyngor yw'r Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd dŵr wyneb. Mae'r tri adroddiad yn amlinellu pa gamau y mae pob awdurdod wedi'u cymryd hyd yma, a'r camau y maen nhw'n bwriadu eu cymryd.
“Ers Storm Dennis, mae’r Cyngor wedi cynnal arolwg mewn perthynas â dros 50 cilomedr o gyrsiau dŵr tanddaearol ledled Rhondda Cynon Taf, wedi sefydlu Carfan Rheoli Materion Draenio bwrpasol sydd ar gael 24/7, agor canolfan reoli mewn argyfwng, ac wedi gosod 26 o gamerâu ychwanegol i fonitro lleoliadau risg uwch. Mae dros 400 o offer gwrthsefyll llifogydd megis rhwystrau y gellir eu hehangu hefyd wedi'u dosbarthu.
“Mae dros 50 o gynlluniau lliniaru llifogydd wedi'u cwblhau yn ein cymunedau lleol, gyda 50 pellach yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ers Chwefror 2020 yn fwy na £13 miliwn. Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno nifer sylweddol o geisiadau am gyllid ar gyfer 2022/23."
Wedi ei bostio ar 25/01/22