Mae Vision Products arobryn y Cyngor wedi adnewyddu ei aelodaeth o fenter Secured by Design, menter ddiogelwch swyddogol yr heddlu.
Mae Vision Products, a lansiodd wefan newydd y llynedd er mwyn arddangos ei holl waith rhagorol, yn parhau â'i stori lwyddiant anhygoel.
Wedi'i sefydlu ym 1993 yn rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf, mae Vision Products yn fusnes sy'n cael ei gefnogi. Mae'n darparu ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau achrededig a chystadleuol o ran prisiau.
Mae'r sefydliad, sydd wedi'i leoli yng nghanol y Fwrdeistref Sirol, yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, gan roi cyfleoedd iddyn nhw fagu sgiliau a chymwysterau i gael gwaith cyflogedig cynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion:
“Rydw i wrth fy modd bod Vision Products wedi adnewyddu ei aelodaeth o fenter Secured by Design, menter ddiogelwch swyddogol yr heddlu, ac rwy'n llongyfarch y staff ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf trwy'r cyfnod hynod anodd yma.
“Mae gan Vision Products weithlu anhygoel a thros y blynyddoedd, mae wedi sefydlu ei hun yn gadarn ac wedi dod yn fusnes uchel ei barch mewn marchnad hynod gystadleuol.
"Mae'r cwmni'n parhau i weithio gyda phobl ag anableddau, ac mae ei raglen hyfforddi i bobl ifainc yn cael ei chydnabod fel arfer da yn y diwydiant gweithgynhyrchu."
Mae Vision Products yn darparu cymorth a chefnogaeth yn y gweithle trwy fecanweithiau cymorth personol ac addasiadau i'r gweithle, gan deilwra cefnogaeth i fodloni gofynion unigol, a sicrhau bod modd i'r gweithwyr wella eu sgiliau yn barhaus, creu gyrfa a'i dilyn yn yr hir dymor.
Mae'r cwmni'n ymfalchïo yn ansawdd, dibynadwyedd a chrefftwaith ei gynnyrch sydd wedi sefydlu ei enw da yn y diwydiant a'i ofal cwsmeriaid arloesol. Maen nhw'n arbenigwyr yn eu maes ac yn arbenigo mewn gwneuthuriad mewnol a gosod ffenestri a drysau PVCu pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid masnachol.
Mae Vision Products yn cynnig ffenestri sy'n bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac sy'n gofyn am bron dim gwaith cynnal a chadw arnyn nhw. Ffenestri PVCu yw'r dewis gorau posibl o ran gofynion cynnal a chadw isel ar gyfer unrhyw eiddo - mae'r deunydd gwydn yn eu gwneud nhw'n gryf ac o ganlyniad, fyddan nhw ddim yn pydru, yn rhydu nac yn pilio.
Mae carfan o arbenigwyr yn creu'r cynnyrch pwrpasol o ansawdd uchel yn eu ffatri ym Mhont-y-clun, ac maen nhw'n cynnig amrywiaeth o liwiau, arddulliau a gorffeniadau sydd wedi'u cynllunio i fodloni'r fanyleb bersonol i drawsnewid unrhyw eiddo.
Dewch o hyd i'r hyn sydd ar gael gan Vision Products (dolen URL) https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/Home.aspx
Meddai Hazel Goss, o Secured by Design:
“Mae wedi bod yn bleser adnewyddu aelodaeth gyda Vision Products, sydd wedi bod yn aelodau o Secured by Design ers 2006. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio â nhw am flynyddoedd i ddod.”
Mae Secured by Design (SBD) yn eiddo i Wasanaeth Heddlu’r DU ac yn gweithio tuag at leihau troseddau a gwella diogelwch i fusnesau ac unigolion. Mae SBD yn ceisio gwella diogelwch ffisegol adeiladau a'r ardal gyfagos gan ddefnyddio cynhyrchion megis drysau, ffenestri, cloeon a systemau waliau ynghyd â systemau ffensio sy'n bodloni gofynion diogelwch y Fanyleb SBD a Ffefrir gan yr Heddlu.
Lleihau trosedd trwy ddyluniadau da (dolen URL) https://www.securedbydesign.com/
Mae gan SBD lawer o sefydliadau partner, yn amrywio o'r Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, datblygwyr a chynhyrchwyr ac mae'r cwmni'n gweithio'n agos gyda chyrff safonau ac ardystio.
Wedi ei bostio ar 24/01/2022