Photo Credit: Paul Jenkins
Mae Rasys Ffordd Cenedlaethol Parc Aberdâr yn dychwelyd y penwythnos yma (16-17 Gorffennaf), a bydd beicwyr modur gorau'r wlad a miloedd o wylwyr yn ymgynnull yno dros y ddau ddiwrnod.
Mae Rasys Ffordd Cenedlaethol Parc Aberdâr yn un o uchafbwyntiau calendr yr haf ar gyfer y rhai sy'n dilyn rasio beiciau modur ac maen nhw'n heidio i Rondda Cynon Taf am benwythnos o gyflymder a chyffro mewn amgylchedd prydferth.
Bob blwyddyn, mae'r beicwyr modur gorau o bob cwr o'r DU yn dod i'r Fwrdeistref Sirol i gystadlu ar y gylchffordd unigryw o amgylch Parc Aberdâr.
Dechreuodd yr achlysur, sy'n cael ei drefnu gan Glwb Beiciau Modur Aberaman a'i gefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ym 1950. Bydd y rasys yn dechrau am 9am ar y ddau ddiwrnod ond, yn ôl traddodiad, bydd seibiant rhwng 10.30am a 12pm ddydd Sul fel bod modd mynd i'r Capel/Eglwys. Rhaid i blant hyd at 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sydd wedi talu. Mae tocynnau ar gael ymlaen llaw, ond mae hefyd modd talu ar y diwrnod.
Rasys Ffordd Cenedlaethol Parc Aberdâr http://www.aberdare-park-road-races.co.uk/
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'n wych cael cynnal Rasys Ffordd Cenedlaethol Parc Aberdâr yn y lleoliad arbennig yma unwaith eto.
"Mae'r rasys yn denu miloedd o ymwelwyr i'r ardal i brofi'r wefr a'r cyffro ac yn hwb gwych i'r economi leol.
“Diolch i ymdrechion anhygoel y Cyngor a Grŵp Cyfeillion Parc Aberdâr, mae Parc Aberdâr yn edrych yn ffantastig yr haf yma ac mae'n llawn lliwiau llachar oherwydd yr arddangosfeydd blodau gwych.
"Mae Parc Aberdâr yn lle gwych i ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn i roi cynnig ar yr arlwy o weithgareddau i deuluoedd sydd yno ac i weld y tirlun arbennig.
10 peth rydyn ni'n hoff iawn ohonyn nhw ym Mharc Aberdâr
Cafodd y parc ei agor ar 27 Gorffennaf 1869 ac mae'n enghraifft berffaith o barc cyhoeddus o oes Fictoria. Mae'r prif nodweddion yn cynnwys safle seindorf a llyn gychod. Mae hefyd ffynnon haearn bwrw brydferth – sy'n un o dair o'i math yn y wlad – a chafod ei chreu ym 1937 i goffáu coroni Brenin Siôr V.
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ym Mharc Aberdâr ym 1956, ac mae Cylch yr Orsedd o'r achlysur hanesyddol hwnnw i'w weld hyd heddiw.
Bydd Rasys Ffordd Cenedlaethol Parc Aberdâr yn cael eu cynnal ym Mharc Aberdâr, CF44 8HN, ddydd Sadwrn/Sul, 16-17 Gorffennaf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.aberdare-park-road-races.co.uk/
Wedi ei bostio ar 14/07/22