Skip to main content

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2022

Armed Forces Day 2022 - GDPR approved-28

Er gwaethaf y tywydd glawog, daeth cymunedau Rhondda Cynon Taf at ei gilydd ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2022, gyda gorymdaith a dathliad i'r teulu. 

Roedd Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, yn llawn cynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog, eu teulu a’u ffrindiau wrth i orymdaith wneud ei ffordd drwy’r man agored hardd. 

Yn dilyn y seremoni, cafwyd achlysur i'r gymuned a theuluoedd, gyda wal ddringo, profiad ogof symudol, ffair fach, sŵ bach a cherddoriaeth gan y DB Big Band. 

Roedd yr achlysur am ddim yn gyfle i ddangos cefnogaeth ac undod ag aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu a'r rhai sydd wedi ymddeol, a'u teuluoedd. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Diolch yn fawr iawn i bawb a ymunodd â ni er gwaetha'r tywydd ar y diwrnod pwysig yma. 

“Roedden ni'n falch o gael cynrychiolwyr o ystod o’r Lluoedd Arfog a grwpiau cymunedol i ymuno â ni ar gyfer yr orymdaith a’r gwasanaeth. 

“Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, gan nodi’n ffurfiol ein hymrwymiad i bersonél ein Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Ers lansio’r addewid pwysig hwnnw'n union 10 mlynedd yn ôl, mae ein cefnogaeth a’n cydnabyddiaeth wedi mynd o nerth i nerth.

 “Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn achlysur pan rydyn ni i gyd yn cael y cyfle i ddangos ein cefnogaeth a’n gwerthfawrogiad i bersonél y lluoedd arfog ac rydw i’n falch bod cymaint wedi ymuno â ni yn 2022.”

Cafodd Diwrnod y Lluoedd Arfog 2022 ei noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd. 

Roedd cwmni Nathaniel Cars yn awyddus i gymryd rhan a dangos ei gefnogaeth i’n cymunedau ac mae wedi noddi achlysuron 'Be' Sy Mlaen' RhCT yn 2022. Rhagor o wybodaeth yma 

Os hoffech chi noddi un neu ragor o achlysuron 'Be' Sy Mlaen' 2022, mae modd dysgu rhagor a chysylltu â ni yma. 

Union 10 mlynedd yn ôl eleni, Rhondda Cynon Taf oedd un o’r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Dyma gytundeb ar y cyd rhwng y Fwrdeistref Sirol a’i chymuned Lluoedd Arfog, boed y bobl hynny'n gwasanaethu neu wedi ymddeol. 

Am ragor o wybodaeth am y Cyfamod a'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys cymorth i deuluoedd unigolion sy'n gwasanaethu, cymorth â materion cyllid, cyflogaeth a thai, Cronfa Grant y Cyfamod a’r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr, ewch i www.rctcbc.gov.uk/LluoeddArfog.

Wedi ei bostio ar 11/07/22