Bydd rhai sy'n defnyddio Maes Parcio Catherine Street ym Mhontypridd yn sylwi ar arwyddion newydd yn cael eu gosod yn y cyfleuster yr wythnos yma – ond cofiwch, fydd taliadau parcio ddim yn ailddechrau nes bydd rhybudd pellach.
Roedd yr hen faes parcio NCP ar gau am bedwar diwrnod ym mis Mehefin 2022 er mwyn gosod peiriannau tocyn newydd, ac i wneud gwaith glanhau ar draws y cyfleuster yn ehangach – ac mae’r Cyngor nawr yn parhau i weithio ar y manylion cyfreithiol terfynol er mwyn ail-agor y maes parcio yn swyddogol a'i weithredu yn y ffordd arferol. Mae'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ei ddefnyddio yn y cyfamser, heb orfod talu ar hyn o bryd.
O ddydd Mercher, 13 Gorffennaf, bydd arwyddion yn cael eu gosod o gwmpas y maes parcio fydd yn dangos y prisiau. Fodd bynnag, bydd yr arwyddion yn glir nad yw prisiau mewn grym eto, felly does dim angen talu. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i breswylwyr a defnyddwyr y maes parcio yn y dyfodol cyn ailddechrau codi tâl.
Sylwch, pan fydd taliadau parcio yn ailddechrau, bydd prisiau Maes Parcio Stryd y Santes Catrin yn gyson â pholisi prisio safonol y Cyngor am ei gyfleusterau parcio arhosiad hir (£1 am hyd at bedair awr, £2 am gyfnod hirach). Mae hyn cryn dipyn yn rhatach na phrisiau blaenorol hen weithredwr y maes parcio. Bydd modd defnyddio tocynnau tymor meysydd parcio'r Cyngor (trwyddedau) yn y cyfleuster yma.
Diolch am eich cydweithrediad parhaus.
Wedi ei bostio ar 14/07/22