Skip to main content

Docyn Haf Newydd Hamdden am Oes

Leisure-for-Life-Logo

 

Mae astudiaethau wedi dod i ben, myfyrwyr yn dychwelyd adref ac ysgolion yn cau am y gwyliau – felly beth am fanteisio ar docyn haf newydd Hamdden am Oes?

Manteisiwch ar y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth enfawr o ddosbarthiadau, gweithgareddau a chwaraeon mewn 12 canolfan fodern, groesawgar wedi'u lleoli ledled Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r cynnig unigryw yma.

Byddwch chi'n cael naw wythnos o fynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd am dim ond £48.

Prynwch docyn ar 11 Gorffennaf i fanteisio ar y cynnig llawn, neu prynwch docyn yn ddiweddarach i sicrhau gostyngiad pro rata. Daw pob tocyn i ben ar 19 Medi, 2022.

Bydd y tocyn yn rhoi mynediad i chi i’r canolfannau isod – defnyddiwch unrhyw un (neu bob un) ohonyn nhw yn ystod gwyliau’r ysgol:

  • Canolfan Hamdden Abercynon
  • Pwll Nofio a Champfa Bronwydd, Porth
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  • Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref
  • Canolfan Hamdden Llantrisant
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
  • Pwll Nofio'r Ddraenen-wen
  • Pwll Nofio Glynrhedynog
  • Hamdden am Oes yn Llys Cadwyn, Pontypridd
  • Canolfan Hamdden Tonyrefail
  • Canolfan Chwaraeon Sobell, Aberdâr. 

Mae'r tocyn haf wedi'i greu ar gyfer myfyrwyr prifysgol/coleg llawn amser a'r rhai sydd mewn addysg llawn amser yn unig. Bydd yn cynnwys mynediad diderfyn i gyfleusterau Hamdden am Oes am naw wythnos am dim ond £48.

Does dim ffioedd ymuno nac ymsefydlu, dim costau canslo a dim taliadau ychwanegol i'w gwneud.

Mae'r tocyn yn caniatáu i chi gael mynediad i bob campfa (gan gynnwys sesiwn ymsefydlu am ddim gyda staff arbenigol), pob pwll nofio, gwersi nofio a dosbarthiadau yn y dŵr (gan gynnwys y gampfa pwll yn Nhonyrefail), yr holl ddosbarthiadau ffitrwydd, yr holl ystafelloedd iechyd a chwaraeon dan do, megis sboncen.

Mae modd i chi brynu'r tocyn o'r dderbynfa yn eich Canolfan Hamdden am Oes agosaf/dewisol. Dyma restr ohonyn nhw

Wedi ei bostio ar 08/07/22