Skip to main content

Eich Hawl i Bleidleisio – Cymryd Rhan yn yr Arolwg Blynyddol o Etholwyr

Elections

Er mwyn cydymffurfio â gofynion Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Adran Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal arolwg blynyddol o etholwyr i sicrhau bod modd i bawb sy'n gymwys i bleidleisio wneud hynny yn yr etholiadau sydd i ddod.

Mae'r Arolwg Blynyddol o Etholwyr yn adolygiad o'r gofrestr etholiadol. Mae'r gyfraith yn mynnu bod Cofrestr Etholiadol Rhondda Cynon Taf yn cael ei gwirio a'i diweddaru.

Maes o law byddwch chi'n derbyn llythyr neu e-bost (os nad ydych chi wedi derbyn un yn barod), yn gofyn a yw manylion eich cartref ar Gofrestr Etholiadol RhCT yn gywir. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus, a byddwch chi'n barod i ddweud eich dweud ym mhob etholiad sydd i ddod.

Arolwg Blynyddol o Etholwyr Rhondda Cynon Taf 2022: Mae'r cyfan sydd angen i chi ei wybod ar ein gwefan:

Bu newidiadau o ran pwy sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru. Bellach, mae modd i BOB person ifanc rhwng 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.

Mae hynny'n golygu bod bellach modd i bobl ifainc rhwng 14 ac 15 oed sy'n byw yn eich cartref gael eu hychwanegu at y Gofrestr Etholiadol. Felly o'r diwrnod y byddan nhw'n troi'n 16 oed, byddan nhw'n gymwys i bleidleisio a dweud eu dweud yn y broses ddemocrataidd.

Mae gan yr HOLL wladolion tramor sydd bellach yn byw’n gyfreithlon yng Nghymru yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol hefyd. Yn y gorffennol, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu'r UE sydd wedi bod yn gymwys.

Mae’n bwysig nad ydych chi'n anwybyddu’r Arolwg Blynyddol o Etholwyr oherwydd gallai hyn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Wedi ei bostio ar 28/07/22