Skip to main content

Y Cyngor yn Codi Cwpan i Bob Gweithiwr sy'n Filwr Wrth Gefn!

Karen Spencer

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn ddydd Mercher (22 Mehefin) drwy lansio ei fore coffi cyntaf ar gyfer pob gweithiwr sy’n filwr wrth gefn a chyn-filwyr lleol.

Mae'r achlysur cymdeithasol yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Ar yr un diwrnod, mae'r Cyngor yn croesawu carfan beiciau modur y Gwarchodlu Cymreig i'r parc tua hanner dydd, fel rhan o'u 'Ride of Respect' o gwmpas y DU i nodi 40 mlynedd ers Gwrthdaro'r Falklands.

'Ride of Respect' Y Gwarchodlu Cymreig

Mae Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn cael ei gynnal ledled y wlad bob blwyddyn i ddathlu gwaith deuol y Milwyr Wrth Gefn yn eu bywydau sifil a milwrol. Mae'r milwyr wrth gefn yn rhoi o'u hamser i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eu bywydau gwaith o ddydd i ddydd a'u gyrfa filwrol i sicrhau eu bod nhw'n barod i wasanaethu yn rhan o'r lluoedd arfog pe bai'r wlad yn galw arnyn nhw.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'r Cyngor yn falch o waith deuol Karen Spencer a'n holl weithwyr wrth gefn, ac rydyn ni'n nodi Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn i ddweud diolch i'r bobl yma, am bopeth maen nhw'n ei wneud.

"Mae Karen bob tro yno i gynnig cyngor a chefnogaeth i aelodau'r Lluoedd Arfog ac mae ei dealltwriaeth hi o fod yn filwr wrth gefn yn Rhondda Cynon Taf yn fuddiol inni wrth gefnogi ein haelodau staff sy'n filwyr ac yn gyn-filwyr. Mae hi’n hyrwyddwraig go iawn i’r Milwyr Wrth Gefn yn Rhondda Cynon Taf.”

Mae'r Lluoedd Wrth Gefn yn cyfrif am tua un o bob chwe o filwyr Lluoedd Arfog y DU ac felly maen nhw'n rhan hanfodol o amddiffyn diogelwch ein cenedl, yma a thramor, yn benodol darparu galluoedd mewn meysydd arbenigol, fel maes meddygol a seiber.

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf rwydwaith cryf o weithwyr sy'n filwyr wrth gefn, wedi'u harwain gan Hyrwyddwraig y Milwyr Wrth Gefn, Karen Spencer, sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori Milwr Wrth Gefn y Flwyddynyng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru eleni.

Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2022

Mae Karen Spencer, Swyddog Busnes, Hyfforddiant, Sicrwydd Ansawdd a Rheoli Risg Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn filwr wrth gefn i Gatrawd Gymraeg RLC 157. Mae hi'n mynd ati i hyrwyddo rôl allweddol milwyr wrth gefn a'r sgiliau mae hi wedi'u datblygu ac yn eu defnyddio yn ei gwaith beunyddiol ac yn ei bywyd milwrol.

Mae Karen wedi bod yn filwr wrth gefn ers dros 10 mlynedd a hi yw eiriolwr a hyrwyddwr milwyr wrth gefn y Cyngor. Mae hi'n darparu cefnogaeth ac arweiniad gwych i garfan Lluoedd Arfog y Cyngor, gan gynnwys cefnogi a hyrwyddo Diwrnod Milwyr Wrth Gefn, cymryd rhan yn niwrnod Gwisgo'ch Iwnifform i'r Gwaith, cynrychioli ei hadran yn rhwydwaith staff y Lluoedd Arfog y Cyngor a chynorthwyo â threfnu Bore Coffi cyntaf y Cyngor ar gyfer aelodau staff sy'n filwyr wrth gefn ac yn gyn-filwyr.

Meddai Karen Spencer: "Rydw i'n falch o fod yn filwr wrth gefn yn Lluoedd Arfog y DU, yn ogystal â gweithio i'r awdurdod lleol. Mae'r ddwy yrfa'n rhoi boddhad.

"Fel milwr wrth gefn, er ein bod ni'n ymarfer sgiliau a driliau yn rheolaidd, does dim dwy sefyllfa'r un fath erioed. Felly, rydyn ni wastad yn paratoi ar gyfer yr annisgwyl - mae pob diwrnod yn ddiwrnod o ddysgu. Fel milwr wrth gefn, does dim ots faint o brofiad sydd gyda chi, mae rhywbeth gwahanol bob tro'n cael ei daflu atoch chi.

"Fy ethos gwaith yw i gadw fy mhen i lawr a bwrw ymlaen â phethau, a gwneud fy ngorau bob amser. Rydw i'n tyfu fel person o hyd, ac rydw i wastad yn edrych am yr her a'r cyfle nesaf i ddatblygu."

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyn-Filwyr Cymru 2022 ar gyfer ei gefnogaeth barhaus a'i waith â chymuned y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a milwyr cyfredol a'u teuluoedd.

Fel un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gytuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, mae'r Cyngor yn falch iawn o'n cymuned Lluoedd Arfog. Mae ymrwymiad y Cyngor i'r Cyfamod yn cefnogi amcanion y Cyngor i gefnogi ei Gymuned Lluoedd Arfog.

Er iddi gael dim profiad milwrol blaenorol pan ymunodd hi â'r Fyddin Brydeinig yn 2011, mae Karen wedi ffynnu ac mae hi bellach yn Sarjant fel Technegydd Meddygol ar gyfer Brwydrau gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, ac yn ymateb i argyfyngau meddygol.

Yn y gorffennol, treuliodd hi chwe mis yn mynd â chyflenwadau hanfodol ar Ymgyrch Herrick 18 yn Afghanistan fel gyrrwr ar gyfer Sgwadron 249  Catrawd Pencadlys 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol. Roedd e'n weithle tra gwahanol i'w swydd arferol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae Karen wedi teithio’r byd yn rhan o'i rôl filwrol ac mae hi hefyd wedi ennill nifer o gymwysterau, gan gynnwys trwydded yrru Cerbydau Nwyddau Trwm, Technegydd Meddygol ar gyfer Brwydrau Dosbarth Cyntaf a Chwrs Gorchymyn, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Filwrol y DU.
Wedi ei bostio ar 22/06/2022