Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd Maes Parcio Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd yn cau dros dro am bedwar diwrnod o 13 Mehefin. Mae hyn er mwyn gosod peiriannau codi tocynnau newydd, gan hefyd fanteisio ar y cyfle i lanhau'r cyfleusterau.
Bydd gwaith gosod peiriannau codi tocynnau newydd yn mynd rhagddo o ddydd Llun, 13 Mehefin hyd at ddydd Iau, 16 Mehefin. Bydd angen cau’r hen faes parcio NCP dros dro er mwyn gosod peiriannau newydd. Bydd y maes parcio'n ailagor yn ôl yr arfer ddydd Gwener, 17 Mehefin.
Bydd carfan Glanhau Cyfleusterau’r Cyngor yn manteisio ar y cyfle i lanhau’r holl ardaloedd cyhoeddus, gan gynnwys pob ardal yn y maes parcio, cynteddau, grisffyrdd a lifftiau er lles defnyddwyr y maes parcio.
Nodwch, doedd dim difrod i’r maes parcio yn dilyn y tân yn adeilad Tŷ Pennant, sy’n eiddo i gwmni Trivallis, ar ddydd Mawrth 31 Mai. Does dim cysylltiad rhwng y tân a’r trefniadau i gau’r maes parcio dros dro am bedwar diwrnod ar 13 Mehefin.
Mae meysydd parcio eraill ar gael o amgylch Canol Tref Pontypridd, gan gynnwys pum maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor - Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy (arhosiad byr, ar agor 24 awr y dydd), Maes Parcio Iard Nwyddau (arhosiad hir, ar agor 24 awr y dydd), Maes Parcio Dôl-y-felin (arhosiad hir, ar agor 24 awr y dydd), Maes Parcio Heol Berw (arhosiad hir, ar agor 7am-7pm) a Maes Parcio Heol Sardis (arhosiad hir, ar agor 7am-7pm).
Diolch ymlaen llaw i drigolion, busnesau ac ymwelwyr i Ganol Tref Pontypridd am eich cydweithrediad wrth i ni gau’r maes parcio dros dro.
Wedi ei bostio ar 09/06/2022