Mae disgyblion ifainc Ysgol Gynradd Trewiliam yn mwynhau dysgu am arddwriaeth ac wedi bod yn brysur yn creu Gardd Jiwbilî Platinwm ar dir eu hysgol i nodi 70 mlynedd o deyrnasiad y frenhines.
Mae'r disgyblion wrth eu bodd yn yr awyr agored. Maen nhw'n awyddus i ddysgu am eu cwmpasoedd, yn angerddol dros yr amgylchedd, ac hefyd wedi bod yn dysgu am y frenhiniaeth fel rhan o'r cwricwlwm.
Roedd Prosiect Jiwbilî yr ysgol felly'n llwyddiant ysgubol wrth i'r plant fynd i afael yn yr her yn frwd, gan ddefnyddio'u holl sgiliau a'u hangerdd.
Yn ogystal, mae gan Ysgol Gynradd Trewiliam eu rhandir eu hun sydd wedi'i blannu a'i gynnal gan y plant a'u hathrawon. Ymysg y llysiau y maen nhw'n eu tyfu ar hyn o bryd, mae letys, rhuddygl, winwns, cennin, corbwmpenni, pwmpenni, ffa dringo a phys. Gyda'r rhan fwyaf o'r rhain mae'r plant wedi eu tyfu nhw o hadau. Yna, mae'r cnydau'n cael eu cynaeafu a'u bwyta fel byrbrydau iach yn yr ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: "Dylai disgyblion a staff Ysgol Gynradd Trewiliam fod yn falch iawn o’u Gardd Jiwbilî Platinwm – canlyniad llawer o waith caled. Mae eu gwaith caled bellach yn dwyn ffrwyth.
"Am ffordd hyfryd o ddysgu wrth ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, yn ogystal â hyrwyddo pwysigrwydd bwyta'n iach."
Meddai Alison Hall, Pennaeth Ysgol Gynradd Trewiliam: "Rydw i mor falch o'n disgyblion ni, gan taw nhw sydd wedi arwain y prosiect yma eu hunain ers y dechrau. Maen nhw wedi dysgu cymaint am sut i dyfu a chynnal nifer o wahanol blanhigion, yn ogystal â phwysigrwydd rhoi paill, neithdar, a lloches i fwystfilod bach i ffynnu yn ein hamgylchedd.
"Mae pawb sy'n rhan o'r ysgol wrth eu bodd gyda chanlyniadau eu gwaith caled nhw, ac rydyn ni i gyd yn falch o lwyddiannau ein plant a'u Prosiect Jiwbilî llawn dychymyg."
Bu dathliadau ledled y Fwrdeistref Sirol yn gynharach yn y mis i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Roedd baneri Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn chwifio â balchder, cafodd adeiladau dinesig eu goleuo a mwynhaodd miloedd o bobl bartïon stryd.
Ar 6 Chwefror 2022, Ei Mawrhydi y Frenhines oedd y Frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu Jiwbilî Platinwm, gan nodi 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y teyrnasoedd a'r Gymanwlad.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd ac i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni'n annog ein trigolion a'n busnesau i gyd i fod yn 'Hinsawdd Ystyriol.'
Wrth i ni weld rhagor o effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd, mae angen i ni i gyd roi newidiadau ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod byd i genhedlaeth y dyfodol ei fwynhau.
Mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT
Mae'r Cyngor, sydd â'r nod o fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030, eisoes wedi gwneud cynnydd mawr dros y ddegawd ddiwethaf yn ei ymdrechion i leihau carbon. Mae hyn wedi cynnwys gosod dros 100 o baneli solar, yn ogystal â gosod systemau gwres a phŵer ynni-effeithlon cyfun sy'n cynhyrchu gwres a thrydan ar yr un pryd o'r un ffynhonnell ynni, gosod boeleri effeithlon iawn, uwchraddio systemau gwresogi, awyru ac aerdymheru, a newid i oleuadau LED sy'n defnyddio llai o ynni mewn adeiladau a goleuadau stryd
Wedi ei bostio ar 23/06/2022