Skip to main content

DIRWYON gwerth £3,530 wedi'u rhoi i Berchnogion Cŵn Anghyfrifol yn RhCT!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i fynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol ac mae dros 250 o berchnogion wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i fynd adref gyda nhw!

Ym mis Chwefror, yn ystod eu patrolau rheolaidd yn y Fwrdeistref Sirol, rhoddodd y carfanau gorfodi 17 o Hysbysiadau Cosb Benodedig gwerth £100 (cyfanswm o £1,700) i berchnogion cŵn anghyfrifol a gafodd eu dal yn torri rheolau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO).

Mae'r neges gan y Cyngor yn glir – os bydd perchennog ci anghyfrifol yn cael ei ddal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn dyrannu Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Ym mis Hydref 2017, roedd y Cyngor yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, pan roddodd Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Gan fod y gorchymyn wedi bod mor llwyddiannus, cafodd ei ymestyn ym mis Tachwedd 2020 i barhau i fynd i’r afael â’r mater annymunol yma.

Un o'r pryderon allweddol yr aeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i'r afael ag ef oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd, ond gallai hefyd achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau.

Mae rhai perchnogion cŵn anghyfrifol yn penderfynu peidio â thalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 cychwynnol ac yn wynebu achos llys posibl. Mae hyn yn golygu taith gerdded gostus iawn, fel y mae’r troseddwyr isod wedi’i ddarganfod. Mae'n bosibl y caiff eu manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfryngau cymdeithasol hefyd.

Ym mis Chwefror aeth CHWECH o bobl i’r llys am yr hyn yr oedden nhw wedi'i gyflawni, gan gynnwys:

  • Menyw o Donysguboriau yn gadael i'r ci roedd hi'n gofalu amdano fynd i ardal dan gyfyngiadau ar faes hamdden Tonysguboriau! Costiodd hyn £214 iddi!
  • Cafodd dyn o Donysguboriau ei ddal hefyd yn yr un ardal yn gadael i’w gi fynd i’r un ardal dan gyfyngiadau ar faes chwarae Tonysguboriau – cerddodd adref gyda DIRWY o £374!
  • Caniataodd menyw o Benderyn i'w chi fynd i ardal dan gyfyngiadau ar faes chwarae Ynys, Aberdâr. Mae hi bellach £194 yn ysgafnach ei phoced.
  • Methodd menyw o Aberpennar â chodi a chael gwared ar faw ei chi. Cafodd hi DDIRWYO drewllyd o £300!
  • Caniataodd gwraig o Lanilltud Faerdref i'w chi fynd i ardal dan gyfyngiadau sy'n cael ei defnyddio'n aml ym Mharc Bryn Hyfryd, Beddau! Cafodd hi ei hanfon adref o'r llys gyda DIRWY o £374!
  • Methodd menyw o Aberaman â chodi baw ei chi ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd! Gadawodd y llys gyda DIRWY o £374!

Dyna gyfanswm dirwyon llys, costau a gordaloedd dioddefwyr o £1,830. Byddai modd iddyn nhw fod wedi osgoi’r rhain i gyd pe baen nhw wedi dilyn y rheolau sydd wedi'u nodi o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod perchnogion cŵn anghyfrifol yn talu sylw i'r rheolau, mae DWY neges syml wedi'u paentio mewn lleoliadau allweddol ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys ysgolion lleol a chanolfannau yn y gymuned.

Mae'r negeseuon yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU' – ac maen nhw'n rhan o'r ymgyrch gyffredinol i gymryd camau i fynd i'r afael â'r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi'n rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol ac wedi buddsoddi dros £40,000 mewn gwella cyfleusterau ar draws RhCT. Mae dros 1,500 o finiau baw cŵn coch yn RhCT mewn mannau allweddol/llwybrau cerdded cŵn hysbys, felly does dim esgus peidio â rhoi'r baw 'Yn y bag, Yn y bin'!”

"Mae’r euogfarnau diweddaraf unwaith eto yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baw cŵn. Os caiff perchennog anghyfrifol ei ddal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, byddwn ni'n gweithredu ac yn cyflwyno dirwy o £100. Os byddwch chi'n methu â thalu'r ddirwy yma, mae'n bosibl y byddwch chi'n wynebu achos llys ac yn derbyn dirwy fwy yn ogystal â chofnod troseddol, fel y mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma newydd ddysgu.

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma.

“Ar ôl derbyn cwynion gan drigolion lleol a gweld y broblem drosof fy hun mewn rhai ardaloedd, mae’r garfan Gorfodi yn cynyddu eu presenoldeb ymhellach i fynd i’r afael â’r mater ar y strydoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn ymgais i ddal y rhai sy’n gyfrifol am y llanast ffiaidd.

“Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod nhw am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys meysydd fel ardaloedd chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a chaeau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Cyngor wedi rhoi bron i 1,030 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rheiny sydd wedi'u dal yn taflu sbwriel, tipio'n anghyfreithlon, torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac yn methu â rheoli eu gwastraff yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Wedi ei bostio ar 15/03/22