Croeso'n ôl i Ŵyl Aberdâr – dathliad deuddydd llawn hwyl a chyffro i ddathlu ei bod yn ôl!
Mae'r achlysur poblogaidd wedi ymestyn eleni i gynnwys dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Bydd hwyl i'r teulu cyfan am ddim, a hefyd ffair, stondinau bwyd ac adloniant byw ar gael yn yr ŵyl ar 3 a 4 Mehefin.
Bydd gweithgareddau ac atyniadau eraill yn cael eu cadarnhau dros y misoedd nesaf, ond yn sicr, byddwch chi a'r teulu'n mwynhau mas draw yn ystod deuddydd yr ŵyl, ac i goroni'r cyfan, mae dathliad brenhinol hefyd.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Ar ôl cyfnod hynod anodd a heriol i lawer o bobl ledled y fwrdeistref sirol, mae'n wych gweld y rhaglen achlysuron yn ei hôl – rydyn ni'n gwybod bod pobl wedi gweld ei heisiau.
"Mae Gŵyl Aberdâr wastad yn boblogaidd am fod mynediad am ddim ac am fod yr ŵyl yn cynnig cymaint i bob oed. Mae'n ffordd wych i'r Cyngor a'i garfan achlysuron ddod â phawb at ei gilydd.
"Dyma'r tro cyntaf byddwn ni wedi gallu dod â'n cymunedau ynghyd fel hyn ers 2019, felly bydd hi'n achlysur arbennig, heb os.
"Bydd Gŵyl Aberdâr hefyd yn cynnig gweithgareddau eraill i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Mae cysylltiadau brenhinol gan Barc Aberdâr. Rhoddwyd y ffynnon ddŵr yn anrheg i bobl y dref i nodi coroni hen dad-cu y Frenhines Elizabeth, sef Brenin Siôr V."
Bydd Gŵyl Aberdâr ym mharc ysblennydd Aberdâr ar 3 a 4 Mehefin. Does dim rhaid talu i fynd i'r achlysur a fydd ar agor rhwng 11am a 5pm ar y ddau ddiwrnod. Yn ogystal â bod yn gartref i'r ŵyl, mae aceri o dir agored, llyn Fictorianaidd â chychod, parc antur a llawer yn rhagor.
Adloniant AM DDIM
Perfformiadau Byw
Ddydd Gwener, 3 Mehefin bydd cantorion teyrnged Steps, The Vengaboys, Little Mix a Beyonce
Ddydd Sadwrn, 4 Mehefin bydd The DB Big Band yn chwarae ym Mharc Aberdâr!
Sinema awyr agored
Cadwch lygad allan am ragor o fanylion am y ffilm ddydd Gwener, 3 Mehefin am 4pm! Dewch â blanced, ymlaciwch a mwynhewch!
Deinosoriaid
Dewch i gwrdd â Raptor, Rexy a'u ceidwaid!
Trên Bach
Ewch ar daith o amgylch y parc ar y trên bach
Gweithdy Sgiliau Syrcas a Chwarae
Ewch i'r ardal sgiliau syrcas am ychydig o hwyl yn yr awyr agored!
Gweithdy Parkour
Dysgwch sgiliau newydd am ddim yn yr ardal parkour
Fferm Anwesu Anifeiliaid
Mae'r fferm anwesu anifeiliaid boblogaidd yn dychwelyd!
Creu Modelau Balŵn
Beth am fynd ag anifail balŵn gartref gyda chi?
Bydd ffair bleser, teithiau ar gefn asynnod, stondinau crefftau a bwyd, a llawer yn rhagor. Mae costau'r gweithgareddau yma'n dechrau o £1.50.
Os ydych chi'n ymweld â'r ardal i fynd i'r achlysur, beth am aros ychydig yn hirach? Crwydrwch drwy Aberdâr, Brenhines y Cymoedd, a dysgwch am ei hanes hir. Mae modd sefyll yn y maes carafanau cyfagos ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, neu ym Mwthyn Cwm Dâr, lle cewch chi groeso cynnes.
Os byddwch chi'n ddigon trefnus, efallai bydd amser i chi fynd i Zip World Tower a chael profiad bythgofiadwy ar Phoenix sef wifren wib gyflymaf y byd, neu wib gerbyd y 'Tower Coaster'. Neu pe byddai'n well gyda chi fynd yn ôl i'r oes a fu, beth am fynd ar Daith Pyllau Glo Cymru arobryn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda? Ewch ar daith dywys dan ddaear gyda dynion a fu gynt yn lowyr eu hunain!
Noddir Gŵyl Aberdâr 2022 gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Os hoffech chi noddi un neu fwy o'n hachlysuron 'Be' Sy Mlaen RhCT' yn 2022, mae rhagor o wybodaeth yma.
Mae Be sy' Mlaen RhCT yn gwahodd busnesau i ddod â stondinau ac arddangosfeydd i'r ŵyl. P'un a ydych chi'n gwerthu cacennau bach neu ganhwyllau a wnaed â llaw, rydyn ni eisiau clywed wrthoch chi! Dewch i ymuno â ni a gwneud y diwrnod yn un arbennig i'n hymwelwyr – mae'n ffordd wych o godi proffil eich busnes hefyd.
Lawrlwythwch ffurflen gais yma.
Bydd manylion terfynol Gŵyl Aberdâr, gan gynnwys amserlen lawn o achlysuron ac atyniadau'r penwythnos yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Facebook, Twitter ac Instagram What’s On RCT. Mae hefyd modd mynd i www.gwylaberdar.co.uk.
Wedi ei bostio ar 25/03/2022