Mae gwaith ar ddatblygiad tai Cwrt y Briallu, ar hen safle Ysgol Gynradd Tonypandy, wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, wedi darparu 21 o dai fforddiadwy newydd mewn ardal o Rondda Cynon Taf lle mae'r galw am dai fforddiadwy'n fawr.
Cafodd £3.7 miliwn ei fuddsoddi yn y datblygiad, a chafodd £968,000 ei ddyrannu gan y Cyngor yn uniongyrchol o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae'r grant yma ar gael i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn ariannu cynlluniau tai fforddiadwy i fodloni'r galw am dai lleol mewn awdurdodau lleol.
Yn rhan o'r datblygiad mae wyth cartref â thair ystafell wely, un byngalo wedi'i addasu â thair ystafell wely, a deuddeg fflat ag un ystafell wely. Symudodd yr holl breswylwyr newydd i'w cartrefi cyn y Nadolig.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: “Rwy'n falch iawn bod cynllun Cwrt y Briallu bellach wedi'i gwblhau a bod y preswylwyr wedi ymgartrefu yno.
"Mae darparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, a byddwn ni'n parhau i gyflawni prosiectau tebyg ar gyfer ein trigolion.
“Dyma brosiect llwyddiannus arall wedi'i ddarparu ar y cyd â'n partneriaid allweddol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld llwyddiant prosiectau eraill yn y dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 23/03/2022