Skip to main content

DIRWY o dros £1330 am dipio'n anghyfreithlon

Tipiwch yn anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf ac fe fyddwch chi'n cael eich dal fel dysgodd y dyn yma o Gwmdâr yn ddiweddar!

Yn gynharach y mis yma cafodd yr unigolyn ei erlyn mewn llys am dipio'n anghyfreithlon mewn ffordd anystyriol. Arweiniodd hyn at ddirwy o dros £1330.

Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, efallai bydd y gost yn fwy na theithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf!

Tipiodd yr unigolyn yma nifer o focsys cardbord, deunyddiau cludo nwyddau, a berfa yn anghyfreithlon. Roedd yr eitemau yma'n cynnwys tystiolaeth o’i waith ar gyfer cyflogwr blaenorol. Cafodd yr holl wastraff ei dipio ar y llwybr sy'n arwain at raeadr Sgwd yr Eira ym Mhenderyn.

Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio'n anghyfreithlon fel a ganlyn: “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol fel mae'r bobl yna wedi cael gwybod!

Llwyddon ni i ddod o hyd i'r unigolyn yma a rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig (£400) iddo ond methodd â thalu'r hysbysiad yma. Wedi nifer o ymdrechion i gysylltu â'r dyn, roedd rhaid mynd â'r achos i'r Llys Ynadon. Methodd y dyn â mynd i'r llys ac roedd rhaid i'r Heddlu ymyrryd. Wedi iddo gyrraedd y llys derbyniodd ddirwy llawer mwy! Dyma rybudd i'r rheiny sy'n penderfynu anwybyddu Hysbysiadau Cosb Benodedig gan fod rhaid i'r dyn yma dalu swm sy'n dair gwaith yn fwy na'r ddirwy wreiddiol.

Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn mewn man cyhoeddus ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achos diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha ei drefi a'i ardaloedd gwledig.

Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gan y Cyngor nifer o gamerâu cudd, symudol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau lle mae achosion o dipio'n anghyfreithlon.

Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Fyddwn ni ddim yn goddef tipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion.

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheiny sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'u gwaredu yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 25/03/2022