Skip to main content

Dweud eich dweud ar gynigion Teithio Llesol ar gyfer Treorci a Llwydcoed

Untitled design (30)

Llwydcoed

Mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar gynigion y Cyngor i ddarparu dau gynllun Teithio Llesol wedi'u targedu er mwyn gwella rhwydweithiau presennol i gerddwyr a beicwyr yn ardaloedd Treorci a Llwydcoed.

Mae gwella darpariaeth Teithio Llesol yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, gan annog rhagor o bobl i gerdded a beicio o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn helpu pobl i fyw bywydau iach, gan greu cymunedau mwy bywiog a gwella ansawdd yr aer.

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno Map Rhwydwaith Integredig wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn ei gymeradwyo. Mae am greu Map Rhwydwaith Teithio Llesol sy'n dangos y llwybrau cerdded a beicio presennol yn Rhondda Cynon Taf, ac sy'n cynnwys y gwelliannau a'r llwybrau newydd arfaethedig.

Dechreuodd dwy broses ymgynghori ar wahân, mewn perthynas â chynigion penodol ar gyfer rhwydweithiau lleol Treorci a Llwydcoed, ddydd Mawrth, 22 Mawrth.Bydd yr ymgynghoriadau ar agor am dair wythnos.

Llwybr Teithio Llesol Treorci – Cam 2a

Mae'r cynllun yn cynnig llwybr Teithio Llesol newydd rhwng Stryd Dyfodwg ac Ystad Ddiwydiannol Cae-mawr yn Nhreorci. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig gwneud rhan o'r droedffordd bresennol yn fwy llydan gan greu llwybr a rennir 3 metr o led, creu croesfan newydd i gerddwyr ar yr A4061 (Heol yr Orsaf), gosod arwyddion newydd a marciau newydd ar y ffordd er mwyn cadarnhau hyd y llwybr newydd.

Byddai'r cynigion yma, pe cytunir arnyn nhw, yn rhan o rwydwaith Teithio Llesol ehangach sy'n darparu llwybrau a chysylltiadau newydd yn ardal y dref. Bydden nhw o fudd i gyfleusterau allweddol a chysylltiadau trafnidiaeth megis Ysgol Gyfun Treorci, y Stryd Fawr, Ystad Ddiwydiannol Treorci a Gorsaf Drenau Treorci.

Llwybr Cyswllt a Gwelliannau i Daith Cynon yn Llwydcoed

Mae'r cynllun yn cynnig gosod pont newydd yn lle'r hen strwythur (yn y llun) sy'n cysylltu tramffordd Taith Cynon â'r ffordd ddienw sy'n arwain at Lôn Las a Heol Cwmynysminton. Byddai'r bont newydd yn 3.5 metr o led a byddai'n cydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol. Yn ogystal â hyn, cynigir gwaith sefydlogi arglawdd yr afon rhwng y bont newydd a Hirwaun.

Mae llwybr mwy llydan Taith Cynon yn rhan o rwydwaith Teithio Llesol sy'n darparu mynediad at gyfleusterau allweddol a chysylltiadau trafnidiaeth megis ysgolion cynradd lleol, canol tref Aberdâr, Ystad Ddiwydiannol Hirwaun a Gorsaf Drenau Aberdâr.

I ddweud eich dweud ar yr ymgynghoriadau, dilynwch y ddolen yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Yn debyg i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru, mae'r Cyngor wedi cyflwyno cynigion i wella'r rhwydwaith Teithio Llesol ac i greu Map Rhwydwaith Integredig fydd yn sail ar gyfer buddsoddi yn yr ardal yma yn y dyfodol. Rydyn ni wedi cynnal nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf, y rhai mwyaf diweddar rhwng mis Awst a Thachwedd 2021.

"Mae Teithio Llesol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor gan fod y manteision yn cynnwys gwella iechyd a lles, lleihau nifer y cerbydau sydd ar ein ffyrdd a diogelu'r amgylchedd. Mae gwella llwybrau lleol yn allweddol er mwyn rhoi cyfleoedd i drigolion gerdded a beicio o ddydd i ddydd. Rhai enghreifftiau diweddar o fuddsoddi yn y maes yma yn cynnwys adlinio Llwybr Taith Taf yng Nghilfynydd y mis yma, ailagor rhan o Lwybr i'r Gymuned yn Ynys-hir wedi difrod yn sgil tirlithriad, a gosod wyneb newydd ar y ffordd, gwaith draenio a gwelliannau i ffensys ar hyd Llwybr Taith Taf yng Nglyn-taf, Nantgarw, Cilfynydd ac Abercynon ers mis Ionawr.

“Mae dau ymgynghoriad penodol bellach wedi dechrau mewn perthynas â gwelliannau Teithio Llesol yn Nhreorci a Llwydcoed. Mae modd i drigolion lleol ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwelliannau arfaethedig ar wefan y Cyngor, a mynegi eu barn. Bydd yr adborth sy'n dod i law yn llywio cynigion y lleoliadau yma ar gyfer y dyfodol, ac yn sicrhau eu bod nhw o fudd i bob cymuned.”

Wedi ei bostio ar 23/03/22