Skip to main content

Gwaith yn y cwrs dŵr oddi ar Deras Campbell yn Aberpennar

Work will begin in the ordinary watercourse off Campbell Terrace

Bydd y Cyngor yn dechrau ar waith i’r cwrs dŵr arferol oddi ar Deras Campbell yn Aberpennar – y bwriad yw adlinio rhannau o’r sianel a darparu amddiffyniad i’r waliau yn y lleoliad yma, yn dilyn difrod ar draws sawl storm.

Bydd y cynllun yn dechrau ddydd Llun, 14 Mawrth, a bydd yn para tua phedair wythnos. Mae'r Cyngor wedi penodi Contractwyr Peirianneg Forol a Sifil EDS i wneud y gwaith. Mae'r rhan o'r cwrs dŵr yn gorwedd gerllaw Teras Campbell, rhwng Stryd Austin a Stryd Allen, gyda dŵr yn llifo trwy gyfres o sianeli agored a darnau â chwlfert, ac yna i'r Afon Cynon.

Mae stormydd dros nifer o flynyddoedd wedi difrodi’r waliau ar ddwy ochr y cwrs dŵr. Bydd y gwaith sydd ar y gweill yn adlinio’r sianel yn y lleoliad yma, ac yn darparu amddiffynfeydd concrit i’r waliau presennol. Mae’n cael ei gynnal gyda chyfraniad o 85% gan Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru, gyda’r Cyngor yn darparu’r 15% sy’n weddill o’r cyllid.

Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yma'n digwydd yn y cwrs dŵr, ac nid yw contractwr y Cyngor yn rhagweld y bydd yn tarfu rhyw lawer ar drigolion. Serch hynny, bydd angen cau rhai ffyrdd lleol drwy gydol yr amser, a bydd angen rhoi trefniadau rheoli traffig ar waith i reoli mynediad cerddwyr a cherbydau i garejys.

Bydd yr oriau gwaith rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a bydd y contractwr yn ceisio lleihau sŵn ac anghyfleustra. Bydd y contractwr yn ysgrifennu at drigolion cyn i'r cynllun ddechrau i egluro'r gwaith a darparu manylion cyswllt y safle.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bydd y gwaith pwysig hwn i ddiogelu sianel y cwrs dŵr arferol ger Campbell Terrace ar gyfer y dyfodol yn dechrau ddydd Llun. Bydd hyn yn cwblhau’r gwaith o adlinio rhannau o’r sianel, ac i ailadeiladu rhannau o’r waliau bob ochr i’r cwrs dŵr. Bydd angen i'r contractwr gau ffyrdd yn lleol, ond does dim disgwyl bydd fawr o darfu ar y gymuned yn gyffredinol.

“Cafodd yr ardal hon o Aberpennar ei tharo’n arbennig o galed gan Storm Dennis, ac mae cynllun Teras Campbell yn rhan o strategaeth ehangach i atgyweirio a diogelu’r rhwydwaith cyrsiau dŵr lleol ar gyfer y dyfodol. Bydd yn cydredeg â gwaith sy'n mynd rhagddo i gyflawni atgyweiriadau adferol yn y cwrs dŵr rhwng Stryd Allen a Stryd Copley. Mae gwaith yno'n parhau i fynd rhagddo ar ôl dechrau ym mis Ionawr.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am ei chydweithrediad parhaus wrth i’r cynllun atgyweirio diweddaraf gael ei gyflawni gyda chymorth Llywodraeth Cymru.”

Wedi ei bostio ar 09/03/2022