Mae llu o weithgareddau ar gael yn Rhondda Cynon Taf trwy gydol 2022 ac mae busnes adnabyddus bellach yn noddi’r rhaglen.
Bydd Gŵyl Aberdâr, Cegaid o Fwyd Cymru, Rhialtwch Calan Gaeaf yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Rasys Nos Galan ymhlith y gweithgareddau sy’n dychwelyd i RhCT yn 2022.
Mae Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd yn noddi rhaglen Achlysuron RhCT eleni. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r garfan wrthi’n trefnu achlysuron trwy gydol o flwyddyn gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb – a hynny gyda chefnogaeth Nathaniel Cars sy’n awyddus i ddweud diolch i gymunedau Rhondda Cynon Taf.
Mae'r achlysuron sydd wedi'u trefnu ar gyfer 2022 yn cynnwys:
- 3 a 4 Mehefin: Gŵyl Aberdâr, achlysur dau ddiwrnod sydd hefyd yn dathlu jiwbilîPlatinwm y Frenhines
- 17 Mehefin: Picnic y Tedis, achlysur llawn hwyl ar gyfer ein trigolion ieuengaf, rhieni a chynhalwyrgan fanteisio ar y cyfle i ddangos yr hyn sydd ar gael iddyn nhw.
- 18 Mehefin: Diwrnod Hwyl i Deuluoedd y Lluoedd Arfog
- 9, 16 a 23 Gorffennaf: Rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref i bob gweithiwr allweddol ac achlysuron yn y gymuned
- 6 a 7 Awst: Cegaid o Fwyd Cymru
- 29 a 30 Hydref: Rhialtwch Calan Gaeaf
- Tachwedd a Rhagfyr: Y Nadolig yng nghanol ein trefi
- 31 Rhagfyr: Nos Galan
Mae modd lawrlwytho'r rhaglen achlysuron ar gyfer 2022yma
Dywedodd Simon Gale, Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu: "Rydyn ni'n falch iawn o weld rhaglen Achlysuron RhCT yn dychwelyd eleni.
"Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni gyd ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawi pobl i’n cyrchfannau prydferth megis Parc Coffa Ynysangarad, Parc Aberdâr a chanol ein trefi ar gyfer ein hachlysuron.
"Mae rhywbeth at ddant pawb yma yn RhCT, o ddeinosoriaid i dren bach yng Ngŵyl Aberdâr i achlysur Cegaid o Fwyd Cymru, sy’n baradwys i’r rheiny sy’n mwynhau bwydydd gwahanol.
"Mae'r achlysuron yma'n ffordd wych o ddod â'n cymunedau ni ynghyd a dathlu bywyd yn Rhondda Cynon Taf ac yn gyfle inni arddangos ein bwrdeistref sirol i gynulleidfa ehangach a denu ymwelwyr o bell."
Meddai Wayne Griffiths, Rheolwr-Gyfarwyddwr Nathaniel Cars "Mae Nathaniel MG yn falch iawn o fod yn bartner ar gyfer rhaglen achlysuron bywiog Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2022. Mae cymaint o achlysuron cyffrous ac amrywiol wedi'u trefnu, sy'n gweddu cynhyrchion a gwasanaethau amrywiol Nathaniel Cars i'r dim. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld a siarad â'n cwsmeriaid lleol a chyflwyno ein cerbydau trydanol cyffrous a fforddiadwy, gan gynnwys y MG ZS EV, y car trydan mwyaf poblogaidd yng Nghymru."
Wedi ei bostio ar 04/05/2022