Skip to main content

Cyfle i leisio'ch barn ynglŷn â phrosiect posibl ar safle'r hen ffatri ieir

The former Mayhew Chicken Factory site in Trecynon

Yn fuan, bydd y Cyngor yn ymgynghori â thrigolion ynglŷn â phrosiect posib i ailddatblygu safle hen ffatri ieir Mayhew yn Nhrecynon. Gall y prosiect arwain at ailddefnyddio'r tir, gan gefnogi busnesau lleol bach i dyfu a darpariaeth Metro De Cymru yn y dyfodol.

Mae'r cynnig, sy'n cael ei ddatblygu gan garfan Ffyniant a Datblygu'r Cyngor, yn trin a thrafod y posibiliad o ddatblygu lleoliad amlbwrpas. Bydd hyn yn ategu'r estyniad arfaethedig i'r rheilffordd i deithwyr rhwng Aberdâr a Hirwaun, yn rhan o'r prosiect Metro.

Bydd y datblygiad yn cynnwys parc busnes modern a chyfleusterau parcio a theithio, a fydd yn cynnwys maes parcio, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan a phont droed/beiciau dros yr afon ar gyfer teithio llesol. Bydd y bont yn cysylltu â gorsaf ar ochr arall yr afon, sy'n rhan o ddatblygiad y Metro.

Bydd y broses ymgynghori yn dechrau ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn gorffen ddydd Gwener, 1 Gorffennaf. Nod y broses ymgynghori ydy clywed safbwyntiau trigolion ynglŷn â chynigion cychwynnol y prosiect, a deall a ydy'r trigolion o'r farn bod galw am y gwelliannau sy'n cael eu trafod.

O 6 Mehefin, bydd modd i drigolion gael rhagor o wybodaeth o wefan y Cyngor: www.rctcbc.gov.uk/ymgynghori. Ar y wefan bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynigion, cyfle i drigolion lenwi arolwg a chyfle i gysylltu â'r garfan drwy e-bost.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter a Datblygu: "Mae safle'r hen ffatri ieir yn Nhrecynon wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd, ac mae'r Cyngor yn trin a thrafod y posibiliad o ailddefnyddio'r safle. Bydd hyn yn ategu'r estyniad i'r rheilffordd tu hwnt i Aberdâr, yn rhan o brosiect arfaethedig y Metro.

"Mae'r ffatri ieir mewn safle strategol ger ffordd osgoi Aberdâr, a byddai modd i'r safle wella'r cysylltiad sydd eisoes yn yr ardal – gan ategu'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd a Phorth Gogledd Cwm Cynon. Mae'r Cyngor yn ystyried datblygiad amlbwrpas, gan gynnwys cyfleuster parcio a theithio i gynyddu mynediad i'r gwasanaethau rheilffordd lleol sy'n ehangu.

"Bydd y prosiect yn darparu parc busnes diwydiannol modern gan greu swyddi o safon yn y maes strategol yma, gan fynd i'r afael â diffyg unedau busnes modern yn y rhanbarth.

"Bydd proses ymgynghori yn cael ei chynnal er mwyn i drigolion gael rhagor o fanylion ynghylch defnydd safle'r hen ffatri ieir. Hefyd, bydd y broses yn galluogi'r Cyngor i glywed safbwyntiau trigolion ynglŷn â chynigion cychwynnol y prosiect. Rwy’n annog trigolion i ddweud eu dweud cyn y dyddiad cau, sef 1 Gorffennaf, er mwyn cynorthwyo i lywio ystyriaethau'r Cyngor mewn perthynas â'r prosiect pwysig yma."

Wedi ei bostio ar 31/05/22